Neidio i'r prif gynnwy
Rhiannon Jones

Dirprwy Gyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch a Gwella (Nyrsio)

Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant, Gwelliant Cymru

Amdanaf i

Dirprwy Gyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch a Gwella (Nyrsio)

Rhiannon Jones yw Dirprwy Gyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch a Gwella (Nyrsio).  Mae’n gyfrifol am ddatblygiad strategol, ymarfer proffesiynol ac arweinyddiaeth glinigol ac yn cadw golwg ar berfformiad y GIG o ran ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir.

Mae gan Rhiannon gyfoeth o brofiad fel Nyrs Gofrestredig, a mwy na 36 mlynedd yn gweithio ar draws GIG Cymru. Ym mlynyddoedd diweddar ei gyrfa, bu’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am bum mlynedd a hi oedd yn dal y portffolio cymhleth ac amlochrog ar gyfer ansawdd, diogelwch a phrofiad, gan arwain a llywio gwelliannau er budd cleifion. Mae ganddi dros saith mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Am y 18 mis diwethaf, mae Rhiannon wedi bod yn gweithio i Brif Swyddog Nyrsio Cymru, gan arwain ar y cyd brosiect cenedlaethol i archwilio’r opsiynau a’r cyfleoedd ar gyfer datblygu rôl band 4 (nyrsio) ar draws GIG Cymru yn y dyfodol.

Mae Rhiannon yn Ysgolor Florence Nightingale ac mae ganddi Radd Meistr mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd. Mae hi wedi elwa o’r blaen ar deithio rhyngwladol i Ganada ac UDA yn archwilio rheolaeth cwympiadau cleifion, meddyginiaeth hunanddosio cleifion a chynllunio gofal cydweithredol.  Mae hi hefyd wedi ymweld â’r Lean Enterprise Academy yn Fflorens, yr Eidal, i rannu’r broses o fabwysiadu methodoleg Lean i sicrhau gwelliannau mewn Gofal Brys.