Mae’r ffrwd waith Arwain ar gyfer Gwella Diogelwch Cleifion yn dwyn ynghyd arweinwyr gweithredol ac uwch arweinwyr. Gyda’i gilydd, mae’r grŵp yn helpu i ddatblygu’r diwylliant a’r system ddysgu o fewn systemau iechyd unigol ac ar draws system ehangach GIG Cymru.
Gan greu amgylchedd lle mae gwelliant yn gallu ffynnu, mae’r ffrwd waith Arwain ar gyfer Gwella Diogelwch Cleifion yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso prosiectau gwella sy’n cael eu cyflawni yn rhan o’r gydweithredfa a sicrhau bod gweithgarwch gwella’n gallu ffynnu ar draws GIG Cymru yn y blynyddoedd i ddod.