Mae prosiectau gwella sy’n cael eu cyflawni gyda chymorth y ffrwd waith Gofal Dydd Diogel ac Effeithiol yn canolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel yn yr amgylchedd gofal dydd, atal derbyniadau i’r ysbyty, a thrin anghenion gofal acíwt yn y lleoliadau mwyaf priodol.
Gallai gweithgarwch yn y ffrwd waith gynnwys gweithredu wardiau rhithwir neu welliannau iddynt, darparu gwasanaethau ysbyty yng nghartrefi pobl, neu fentrau i osgoi derbyn pobl i’r ysbyty.