Sefydlwyd y rhaglen waith dair blynedd i wella ansawdd gofal i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal mewn ymateb i adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Lle i’w Alw’n Gartref: Effaith a Dadansoddiad ac i gynllun Cymru Iachach Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn gweithio gyda staff ar bob lefel mewn cartrefi gofal i helpu i adeiladu amgylcheddau cefnogol. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar gyfres o ymyriadau i wella diogelwch ac ansawdd gofal i breswylwyr, ymgysylltu â'u teuluoedd ac i gefnogi llesiant staff. Bydd hyn yn caniatáu i breswylwyr fyw bywydau ystyrlon yn eu cartrefi.
Mae tri cham i'r gwaith:
Mae staff o 16 Cartref Gofal ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Hanfodion Gwelliant i roi'r sgiliau iddynt sydd eu hangen i ddeall gwella ansawdd. Mae rhagor o staff o'r Cartrefi Gofal wedi ymgymryd â hyfforddiant Gwelliant Ymarferol i'w cefnogi i wneud newidiadau llwyddiannus i'r ffordd y maent yn gweithio.
Mae Cartref Gofal Cymru yn cefnogi'r Cartrefi Gofal hyn trwy gydol eu taith welliant i greu prosiect y gellir ei rannu ymhlith grwpiau cymheiriaid.
Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â staff cartrefi gofal, y Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Age Cymru, Cymunedau Digidol Cymru a Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Rosalyn Davies, Arweinydd y Rhaglen, CareHomeCymru@wales.nhs.uk