Mae'r tîm yn cefnogi mentrau gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda chydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i wneud Cymru yn wlad sy’n deall dementia. Rydym yn gwneud hynny drwy hyrwyddo a datblygu gofal ac ymyriadau sy'n: cynnig gwell mynediad, ymateb amserol, asesu cynnar a diagnosis.
Mae hyn yn cynnwys mentrau sy'n cael eu cyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Mae'r mentrau hyn yn cefnogi'r person drwy gydol y daith ofal o fyw gyda dementia, gan adeiladu ar bartneriaethau a pherthnasoedd. Ein nod yw darparu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r ansawdd gorau a hwyluso'r gwaith o ledaenu arferion da ledled Cymru.