Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru, andrea.gray@wales.nhs.uk
Mae gwaith y tîm wedi cynnwys cyhoeddi Matrics Cymru, y canllawiau cyntaf ar gyfer darparu therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru a'r Cynllun Cenedlaethol cysylltiedig i gefnogi gweithredu. Cyhoeddwyd Matrics Plant (Canllawiau ar Ddarparu Ymyriadau Seicolegol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru) yn 2020 a’i Gynllun Gweithredu cysylltiedig yn 2021. Mae’r Tablau Tystiolaeth, sy’n cefnogi darparu ymyriadau seicolegol ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant, wedi’u diweddaru ac fe’u diwygiwyd ddiwethaf yn 2023.
Mae’r tîm yn gweithio’n bennaf ochr yn ochr â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac aelodau Pwyllgor Rheoli Therapïau Seicolegol Cenedlaethol (NPTMC). Mae’r NPTMC yn cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd a chynrychiolwyr o bwyllgorau lleol amlddisgyblaethol amlasiantaeth ledled Cymru.
Cyhoeddi:
Datblygu canllawiau ar ddarparu ymyriadau seicolegol i bobl ag anabledd dysgu