Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn Adnoddau ar gyfer Codi Ymwybyddiaeth o Arferion Cyfyngol

Dyluniwyd a phrofwyd y pecyn adnoddau addysgol hwn gan bobl sydd â phrofiad bywyd a’u gofalwyr. Mae i’w ddefnyddio gan ofalwyr yng Nghymru sy’n cefnogi pobl sydd ag anabledd dysgu.


Mae’r pecyn yn rhoi’r cyfle i godi ymwybyddiaeth o arferion cyfyngol i bobl sydd â phrofiad bywyd mewn ffordd ddifyr sy’n helpu pobl i ddeall eu hawliau ac arferion gorau.

Mae'r sesiwn ddysgu ryngweithiol wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch i bobl sydd â phrofiad bywyd. Bydd unrhyw un sydd â dealltwriaeth ymarferol o arferion cyfyngol yn gallu cyflwyno’r sesiwn. Ceir rhagor o fanylion yn Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru.

Beth yw arfer cyfyngol?

‘Mae arferion cyfyngol yn amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n atal unigolion rhag gwneud pethau y maen nhw am eu gwneud, neu’n eu hannog i wneud pethau nad ydynt am wneud. Gallant fod yn amlwg iawn neu’n gynnil iawn.’ (Cyngor Gofal Cymru, 2016)  

Mae'r term hwn yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau sy'n cyfyngu ar bobl. Mae'n cynnwys: 

  • ataliaeth gorfforol 
  • ataliaeth gemegol 
  • ataliaeth amgylcheddol 
  • ataliaeth fecanyddol  
  • arwahaniad neu ynysu gorfodol 
  • gwahanu hirdymor 
  • gorfodaeth 
Nod y pecyn yw archwilio:
  • y saith math o arfer cyfyngol 
  • sut mae'r gyfraith yn eich amddiffyn a pha hawliau sydd gennych chi 
  • pan fo'n gyfreithlon i ddefnyddio arferion cyfyngol 

Sut i ddefnyddio'r pecyn adnoddau hwn

Lawrlwythwch y pecyn adnoddau a rhoi’r cyflwyniad i'ch cynulleidfa. 

Lawrlwythwch ac argraffu’r lluniau o arferion cyfyngol ar gyfer y gweithgaredd. 

Cyfle i wneud Gweithgaredd 

Dyma gyfle i gael trafodaeth un i un a/neu drafodaeth grŵp  

Mae Sleidiau 5 i 14 yn y cyflwyniad yn ymdrin â’r gwahanol fathau o arferion cyfyngol ac yn eich galluogi i ddefnyddio delweddau i archwilio’r hyn a allai fod yn gyfyngiad

Cymerwch ddarn o bapur maint A3 a'i rannu'n saith sgwâr (un ar gyfer pob arfer cyfyngol). Labelwch bob sgwâr gyda'r math o arfer cyfyngol.

Gall y grŵp edrych trwy'r lluniau a'u gosod yn y golofn y maent yn teimlo eu bod yn berthnasol iddi. Manteisiwch ar y cyfle hwn i drafod syniadau/barn/profiadau.