Mae gwneud penderfyniadau am eich gofal a’ch triniaeth eich hun yn hawl sydd gan bawb ond nid yw pawb yn gallu ei defnyddio, gan gynnwys pobl ag anabledd dysgu.
Os gallwn ddeall y rheswm dros ymddygiad unigolyn, gallwn ddod o hyd i ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ddiwallu ei anghenion heb orddibyniaeth ar feddyginiaeth.
Yn syml, mae’r dull hwn yn golygu y gallwn leihau’r defnydd o arferion cyfyngol a gwella ansawdd bywyd llawer o bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd.
Mae rhai pobl ag anabledd dysgu yn defnyddio ymddygiadau sy'n peri pryder i eraill. Weithiau gall yr ymddygiadau hyn achosi niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill.
Weithiau mae gweithwyr proffesiynol yn cyfeirio at y math hwn o ymddygiad fel 'ymddygiad sy'n herio' neu 'ymddygiad sy'n peri pryder'. Gall arwain at ddefnyddio arferion cyfyngol, gan gynnwys defnyddio meddyginiaeth i reoli ymddygiad.
Gall dulliau fferyllol, a elwir weithiau yn 'ataliaeth gemegol', gael effeithiau negyddol sylweddol ar faterion iechyd corfforol unigolyn, gan gynnwys magu pwysau, tawelyddu, diabetes, problemau gyda’r galon ac anhwylderau symud. Gallai meddyginiaethau atal ymddygiadau heb fynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, megis anghenion heb eu diwallu neu ffactorau amgylcheddol.
Mae darparu dewisiadau amgen i gefnogi pobl ag ymddygiadau sy’n peri pryder a lleihau’r risg o niwed yn ganolog i leihau’r defnydd o ataliaeth gemegol Mae’r fframwaith hwn yn cyfrannu rhywfaint at ddarparu manylion yr ymyriadau anfferyllol a ddefnyddir yng Nghymru a deall sut i’w defnyddio.
Prif ddiben y fframwaith hwn yw gwella ansawdd bywyd y bobl niferus ag anabledd dysgu a theuluoedd nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu.
Gobeithir y bydd y fframwaith hwn yn annog atal dros ymateb, ac yn amlygu dewisiadau amgen sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Nodau’r fframwaith hwn yw:
Bydd y rhesymeg dros y fframwaith hwn yn cael ei nodi mewn perthynas â pholisïau a chyfreithiau perthnasol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ymholiadau pellach neu os hoffech ragor o wybodaeth am raglen Anabledd Dysgu Gweithrediaeth GIG Cymru, cysylltwch ag: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk