Mae'r Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd+ (HEF+) yn fesur canlyniadau a ddefnyddir gan wasanaethau anabledd dysgu arbenigol mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru i nodi anghydraddoldebau iechyd y gall pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd/gofalwyr eu profi.
Mae Rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru sy’n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, yn cefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i ddefnyddio HEF+. Rydym hefyd yn ymwneud â nifer o brosiectau i hybu ei effeithiolrwydd.
Nod HEF+, sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, yw cefnogi gwasanaethau anabledd dysgu arbenigol yng Nghymru i ddeall effaith ac effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae HEF+ yn galluogi gwasanaethau i gasglu a monitro data effaith cydraddoldeb iechyd a'u ddefnyddio i lywio'r broses o ddarparu a dylunio gwasanaethau, naill ai ar gyfer unigolyn, poblogaeth neu ranbarth. Mae'r data hyn yn cael eu monitro a'u casglu dros gyfnod o amser i nodi amrywiadau ac anghydraddoldebau ac i wella canlyniadau iechyd.
Drwy ddeall y ffactorau hyn, mae'n helpu i gefnogi a galluogi'r gwasanaethau anabledd dysgu arbenigol i atal ac ymyrryd yn rhagweithiol, a fydd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Disgwylir i bob gwasanaeth anabledd dysgu arbenigol yng Nghymru ddefnyddio HEF+ wrth ddarparu gofal. Mae nifer o adnoddau i gefnogi hyn.
Os oes gennych ymholiadau pellach, anfonwch neges i: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk