Mae chwe thîm a gafodd arian grant a hyfforddiant ar ddulliau gwella wedi troi eu syniadau’n realiti er mwyn helpu i wella bywydau pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Mewn dathliad o feddwl mewn modd creadigol ac arloesol, mae’r chwe phrosiect wedi rhannu eu llwyddiannau a’r rhwystrau a wynebwyd ganddynt er mwyn ysbrydoli timau eraill i ystyried gwneud newidiadau a allai wella profiadau a chanlyniadau i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
Wrth i’r sector cyhoeddus ymateb i’r adferiad yn dilyn pandemig COVID-19, gwahoddwyd timau ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i gyflwyno ceisiadau i ddatblygu prosiectau newydd a fyddai’n newid y ddarpariaeth gwasanaethau.
Byddai’r cyfle yn eu galluogi i ehangu arferion da, gweithio ar y cyd â phartneriaid, a dysgu mwy am eu syniadau.
Roedd y grantiau gwella ar gael i sefydliadau sector cyhoeddus, gwasanaethau, timau ac aelodau staff, a gellid eu defnyddio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, megis partneriaid trydydd sector neu ddarparwyr gofal.
Cyflwynodd dros 90 o brosiectau ar draws y gymuned anabledd dysgu geisiadau am arian grant. Ar ôl proses asesu drylwyr, dyfarnwyd cyfanswm o £100,000 i’r chwe phrosiect llwyddiannus dros gyfnod o ddwy flynedd, yn 2023/24 a 2024/25.
Cafodd y grantiau gwella eu hwyluso gan raglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru yn rhan o'i gwaith i annog cyflenwi Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026 Llywodraeth Cymru.
Derbyniodd y chwe thîm a gafodd arian grant hyfforddiant, cyngor, anogaeth ac adnoddau hefyd gan dîm profiadol Gwelliant Cymru, a chawsant eu cyflwyno hefyd i rwydweithiau allweddol.
Bu’r canllawiau hyn o gymorth i wella gwybodaeth a sgiliau'r timau, fel y gallent gymhwyso eu set sgiliau estynedig i'w prosiectau ac i'w gwaith yn y dyfodol.
Cwblhaodd pob un o’r timau a gymerodd ran Adroddiad Canlyniadau ar y Prosiect Gwella i helpu eraill ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i ddysgu o’u profiadau.
Mae'r adroddiadau'n egluro nodau eu prosiectau, y fethodoleg a ddefnyddiwyd ganddynt, canfyddiadau allweddol, ac argymhellion wrth symud ymlaen.
Roedd themâu cyffredin yn y canfyddiadau a’r argymhellion ym mhob un o'r prosiectau a ariannwyd gan grant. Nod y rhain yw mynd i'r afael â'r heriau a nodwyd ac adeiladu ar lwyddiannau’r prosiectau.
Cydweithio ac integreiddio - Mae angen clir i wasanaethau a rhanddeiliaid gydweithio i greu systemau cymorth mwy effeithiol a chyfannol. Byddai hyn yn cynyddu dealltwriaeth ehangach o faterion a galluogi ymyriadau llwyddiannus trwy rannu adnoddau a gwybodaeth.
Hygyrchedd a chynhwysiant - Mae mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogi yn allweddol i sicrhau bod gwelliannau'n deg i bawb. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ystyriaethau ar gyfer cyfyngiadau o ran cludiant, hygyrchedd iaith, ac anghenion dysgu amrywiol.
Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth - Dylai'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd, a'u gofalwyr dderbyn cymorth bob amser. Dylai eu cyfranogiad parhaus fod yn flaenoriaeth, o gwmpasu prosiect gwella yn y camau cynnar i wneud penderfyniadau am eu gofal,
Newidiadau sy'n cael eu gyrru gan ddata - Mae'n hanfodol casglu a defnyddio adborth ansoddol a meintiol. Mae gwerthuso parhaus a mesurau canlyniadau clir yn helpu i wella gwasanaethau a rhoi'r ymyriadau mwyaf effeithiol ar waith. Mae deall diffygion data hefyd yn helpu i nodi lle mae angen cynnal ymchwil bellach.
Dod â phobl ynghyd - Gall adeiladu rhwydweithiau o bobl fel defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, neu weithwyr gofal proffesiynol, helpu i feithrin ymdeimlad o gymuned. Gall hyn arwain at berthnasoedd cefnogol a lleihau teimladau o deimlo’n unig.