Neidio i'r prif gynnwy

Gweledigaeth a Chynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru

A classroom of children are raising their hand, while the National Vision infographic is placed alongside them.

Dylai plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu gael eu grymuso i gyrraedd eu llawn botensial. Maent yn haeddu bod yn hapus ac yn iach nawr ac yn y dyfodol.

Nod ein Gweledigaeth a Chynllun Gweithredu Cenedlaethol ar y cyd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yw creu dull Cymru gyfan o ddarparu mynediad teg at wasanaethau.

 

Cefndir

Dechreuodd ein taith tuag at weledigaeth genedlaethol gyda’r Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu (2022-2026) sy’n ceisio ‘darparu dull cyson, 'hygyrch a hawdd ei ddeall o ymdrin â gwasanaethau plant ledled y sector cyhoeddus. Gwella pob agwedd ar wasanaethau pontio.’

Fel rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, mae rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru yn rhaglen diogelwch cleifion genedlaethol sy’n gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ag anabledd deallusol. Roedd cefnogi plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu yn faes ffocws allweddol.

 

Ein diben

Mae mynediad at wasanaethau gofal iechyd i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn amrywio’n fawr ledled y wlad. Mae hyn yn aml yn cael effaith negyddol ar brofiadau a chanlyniadau cleifion. Datblygwyd ein gwaith gyda'r nod o ddylanwadu ar bolisi'r dyfodol a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu. Ein hamcan oedd darparu dull Cymru gyfan gyson, hygyrch, hawdd ei ddeall, tuag at wasanaethau plant ar draws y sector cyhoeddus yn ogystal â gwella pob agwedd ar wasanaethau pontio.

 

Ein gwaith ymgysylltu

Mae rhoi llais i brofiadau bywyd yn bwysig i ni. Gwnaethom ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys plant, pobl ifanc a'r oedolion sy'n gofalu amdanynt dros gyfnod o 18 mis.

Roedd ein gwaith ymgysylltu yn cynnwys hwyluso gweithdai, cynnal digwyddiadau gwrando, ymweld ag ysgolion, a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus agored. Roeddem eisiau sicrhau bod y dyfodol yn cael ei lunio gan y rhai y mae’n effeithio fwyaf arnynt, felly roedd yn hanfodol cael gwybod yn uniongyrchol am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu a’r bylchau o bolisi i ymarfer.

Mae angen rhagolwg system gyfan ar yr heriau hyn. Nod ein gwaith oedd dod â meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg at ei gilydd i greu dull cynhwysfawr ac integredig. Gwnaeth y sbectrwm llawn o randdeiliaid gwasanaethau gofal gymryd rhan yn y broses a llwyddasom i gyflawni cydweithio traws-sector.

 

Cysylltu â ni

Os oes gennych ymholiadau pellach neu os hoffech gael gwybod mwy am raglen Anabledd Dysgu Gweithrediaeth GIG Cymru, anfonwch neges i: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk