Ydych chi'n unigolyn ag anabledd dysgu sydd eisiau i'ch llais gael ei glywed? Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr sy'n eirioli dros bobl ag anghenion ychwanegol? Ydych chi'n weithiwr gofal proffesiynol sy'n gallu rhoi cymorth o ran addasiadau rhesymol? Mae'r Proffil Iechyd yma i helpu.
Mae hwn yn llyfryn sy'n eiddo i bobl ag anableddau dysgu i rannu gwybodaeth bwysig amdanynt eu hunain a'u hiechyd. Mae'n ei gwneud hi'n haws iddynt gyfathrebu, gan wella eu profiadau a'u helpu i gael gofal iechyd diogel pan fydd ei angen arnynt.
Gellir rhoi'r Proffil Iechyd i staff gofal iechyd, fel meddygon a nyrsys, i'w helpu i roi'r gofal cywir a fydd yn canolbwyntio ar y claf ar yr adeg gywir. Gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw apwyntiad, gan gynnwys lleoedd clinigol fel ysbytai neu yn y gymuned mewn lleoedd fel practisiau meddygon teulu.
Gall unigolyn ag anabledd dysgu lenwi’r ffurflenni Proffil Iechyd ei hunan neu gyda chymorth rhywun sy’n ei adnabod yn dda, fel ffrindiau, teulu, gofalwyr neu staff cymorth.