Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i ledaenu'r gair am Broffiliau Iechyd

Lloyd Martin and his Mum Ceri Hooper are walking through the park on a sunny winter day.

Mae Rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru wedi llunio deunyddiau i gefnogi ein rhanddeiliaid i ledaenu’r gair am Broffiliau Iechyd.

Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o adnoddau dwyieithog yr ydym yn eich annog i'w defnyddio ar eich sianeli i gyfathrebu â'ch cynulleidfaoedd eich hun.

 

Cysylltu â'r Proffil Iechyd

Mae prif dudalennau gwe'r Proffil Iechyd i'w gweld ar ran Gwelliant Cymru o wefan Gweithrediaeth GIG Cymru. Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys templedi Proffil Iechyd, nodiadau canllaw, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Oherwydd strwythur y wefan, rydym wedi creu dwy ddolen fer i'w gwneud yn haws i chi gyfeirio cynulleidfaoedd at y Proffil Iechyd.

Defnyddiwch y dolenni byr isod yn y cynnwys rydych chi'n ei gyhoeddi:

 

Deunyddiau ar gyfer Awdurdodau Lleol, darparwyr gofal yn y sector preifat, a sefydliadau trydydd sector

Pwrpas y deunyddiau hyn yw i chi annog pobl sydd ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u ffrindiau, gofalwyr a staff cymorth i gwblhau Proffil Iechyd.

 

Deunyddiau ar gyfer Gwasanaethau, Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd GIG Cymru

Pwrpas y deunyddiau hyn yw i chi godi ymwybyddiaeth o Broffiliau Iechyd gyda staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal iechyd. Dylent ofyn i gleifion ag anabledd dysgu am Broffil Iechyd neu gellir cyflwyno un iddynt.

 

Deunyddiau cyffredinol

 

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech roi adborth, cysylltwch â: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk