Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o'r Bwndel Gofal Acíwt Anableddau Dysgu

Yn 2022, cyhoeddodd Gwelliant Cymru dendr ar gyfer y Bwndel Gofal Acíwt Anableddau Dysgu (Bowness, 2014) a gafodd ei gyflwyno i'w roi ar waith ledled Cymru yn 2014.

Diben y gwerthusiad oedd pennu a ddylai'r bwndel gofal barhau ar ei ffurf bresennol, cael ei addasu, neu gael ei derfynu.

Cyflwynwyd y bwndel gofal i wella ansawdd y gofal a brofir gan bobl ag anableddau dysgu pan gânt eu derbyn i ysbytai gofal acíwt yng Nghymru. Mae'n cynnwys pedair prif elfen:

  • Adnabod cleifion ag anableddau dysgu yn gynnar.
  • Cyfathrebu'n effeithiol â chleifion, gofalwyr, aelodau o'r teulu a chlinigwyr.
  • Gofal a thriniaeth ag urddas, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Adolygu a chynllunio ar gyfer rhyddhau mewn modd effeithiol.

Fodd bynnag, ers ei gyflwyno, bu yna ddatblygiadau o ran polisi a'r dull o ddarparu gwasanaethau, fel ei gilydd. Mae'r dystiolaeth sy'n berthnasol i anghenion iechyd pobl ag anableddau dysgu, yn ogystal â'r strategaethau i leihau'r anghydraddoldebau iechyd y maent yn eu profi, wedi ehangu hefyd. Felly, y teimlad oedd ei bod yn amserol adolygu'r defnydd o'r bwndel gofal a gwneud argymhellion ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol.