Bydd y Proffil Iechyd yn helpu plant ag anableddau dysgu i gael gofal iechyd da a diogel ar yr adeg y mae ei angen arnynt.
Cliciwch i lawrlwytho'r Proffil Iechyd (.docx)
Cliciwch i lawrlwytho cyfarwyddiadau ar sut i'w lenwi (PDF)
Cliciwch i lawrlwytho cyfarwyddiadau ar gyfer eich gofalwr neu'ch teulu os oes angen eu help
Chi sy’n llenwi’ch Proffil Iechyd (neu gallwch gael help i'w lenwi) a'i gadw. Gallwch fynd â'r Proffil Iechyd gyda chi pan fyddwch chi’n gweld staff iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft, meddygon, nyrsys, deintyddion neu weithwyr cymdeithasol.
Os oes angen cymorth arnoch i lenwi eich proffil iechyd, gallwch ofyn i aelod o’r teulu neu ofalwr. Cliciwch yma i gael arweiniad ar eu cyfer.
Bydd eich Proffil Iechyd yn hysbysu’ch gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol am:
• eich iechyd.
• sut i ofalu amdanoch chi a'ch cefnogi yn y ffordd sydd orau i chi
• y ffyrdd gorau o gyfathrebu â chi
Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau ar sut i'w lenwi.
Gall plant hŷn ddewis llenwi naill ai Proffil Iechyd i blant, neu Broffil Iechyd i oedolion, os byddai’n well ganddyn nhw.
Gwyliwch y fideo hon am y Proffil Iechyd