Cliciwch i lawrlwytho'r Proffil Iechyd (PDF)
Cliciwch i lawrlwytho cyfarwyddiadau ar sut i'w lenwi
Dylech chi lenwi’ch Proffil Iechyd. Gallwch fynd â'ch Proffil Iechyd gyda chi pan fyddwch chi’n mynd i'r ysbyty. Neu pan fyddwch chi’n mynd i weld staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Dylech lenwi’ch Proffil Iechyd. Gallwch fynd â'ch Proffil Iechyd gyda chi pan fyddwch chi’n mynd i'r ysbyty. Neu pan fyddwch chi’n mynd i weld staff iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwch ddefnyddio’r Proffil Iechyd yn hytrach na’r pasbort ysbyty. Mae’n well defnyddio’r Proffil Iechyd gan ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar eich gweithwyr iechyd. Gellir ei ddefnyddio mewn ymweliadau â’r holl wahanol fathau o weithwyr iechyd yn ogystal ag yn yr ysbyty.
Bydd eich Proffil Iechyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch:
• eich iechyd
• eich anghenion gofal a chymorth
• y ffyrdd gorau o gyfathrebu â chi
Bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol yn defnyddio'r wybodaeth yn eich Proffil Iechyd i'ch cefnogi mewn ffordd sy'n diwallu'ch anghenion orau. Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau ar sut i'w lenwi.
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich proffil iechyd, gallwch ofyn i aelod o’r teulu, ffrind neu ofalwr. Cliciwch yma i gael canllawiau ar eu cyfer.
Gwyliwch y fideo hon am y Proffil Iechyd