Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru fwy diogel, tecach ac iachach i bobl ag anabledd dysgu. Dyna pam yr ydym yn adeiladu rhwydwaith cenedlaethol i ymgysylltu â'n rhaglen diogelwch cleifion strategol.
Bydd y rhwydwaith yn eich helpu i gael y newyddion diweddaraf a chyfrannu at ddatblygu polisi cenedlaethol ar wella ansawdd a diogelwch. Rydym am i chi ymuno â ni i lunio dyfodol gwell.
Nid oes angen talu i ymuno â'r rhwydwaith ac nid oes disgwyliad i chi roi o’ch amser, ond bydd yn rhoi'r cyfle i chi fod yn ymwybodol o'n gwaith i helpu pawb i dderbyn gofal diogel, effeithiol ac effeithlon a chymryd rhan ynddo.