Neidio i'r prif gynnwy

Yr Her Iechyd | Adnoddau i ysgolion

Gallwch lawrlwytho cynlluniau gwersi am ddim i helpu pobl ifanc i gwblhau'r Her Iechyd yn eich ystafelloedd dosbarth. Mae hwn yn brosiect chwe wythnos sydd â’r nod o wella iechyd a lles plant ag anabledd dysgu.

Datblygwyd yr adnoddau rhad ac am ddim hyn er mwyn cefnogi plant ag anabledd dysgu drwy’r pynciau allweddol canlynol: iechyd corfforol, iechyd meddwl, gofal personol, hylendid, bwyta’n iach, ac ymddygiad cadarnhaol.

Gall ysgolion ddefnyddio’r cynlluniau gwersi hyn i annog dull rhagweithiol at iechyd a lles. Mae rhai o’r canlyniadau disgwyliedig i ysgolion sy’n defnyddio’r adnodd yn cynnwys:

  • Gostyngiad mewn anghydraddoldebau iechyd
  • Gallu nodi'r angen am ymyriadau cynharach
  • Unigolion yn fwy tebygol o fonitro eu hiechyd eu hunain
  • Unigolion yn fwy tebygol o brofi gwell iechyd gydol oes
     

Datblygu'r Her Iechyd

Nod yr adnodd hwn yw cryfhau'r berthynas rhwng addysg a gofal iechyd. Fel rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, darparodd rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru reolaeth prosiect, cyfeiriad strategol, a dyraniad adnoddau.

Cydweithiodd y rhaglen ag Ysgol Maes y Coed a’r Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu’r cynlluniau gwersi.

Roedd y plant a gymerodd ran yn ddisgyblion cyfnodau allweddol dau a thri. Roedd hyn yn sicrhau bod y cynlluniau gwersi yn cael eu llywio gan brofiadau bywyd ac yn addas ar gyfer y lleoliadau y maent yn bwriadu eu cefnogi.


Mae'r adnoddau hyn yn cyd-fynd â'r Gwiriad Iechyd Blynyddol, y Proffil Iechyd Unwaith i Gymru, a'r Cynllun Datblygu Unigol. Mae’n cael ei integreiddio â’r Cwricwlwm i Gymru ac yn cefnogi’r Weledigaeth Genedlaethol ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu, sy’n amlinellu’r angen am fynediad at wybodaeth i gadw’n iach.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ymholiadau pellach neu os hoffech gael gwybod mwy am raglen Anabledd Dysgu Gweithrediaeth GIG Cymru, anfonwch neges i: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk