Mae ein cyrsiau yn eich cefnogi chi i fagu hyder yn eich gallu i reoli a chynnal bywydau egnïol a chyflawn. Mae’r cyrsiau’n ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys:
- Blinder, straen a phroblemau emosiynol fel hwyliau isel, dicter, ofn a rhwystredigaeth
- Cyfathrebu gyda’ch teulu, eich ffrindiau a'ch tîm gofal iechyd
- Ymarfer corff priodol ar gyfer cynnal a gwella cryfder a gwytnwch
- Bwyta'n iach
- Technegau anadlu
- Datblygu a chynnal eich cynllun gofal hunan-reoli eich hun
- Technegau datrys problemau a gwneud penderfyniadau
- Defnyddio meddyginiaeth yn briodol
- Cynllunio ar gyfer y dyfodol