Rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau i greu'r amodau, adeiladu’r gallu a gwneud y cysylltiadau ar gyfer gwelliant i ffynnu ar draws y system gyfan. Drwy gydweithio, gallwn ddefnyddio gwelliant i drawsnewid er mwyn helpu i adeiladu Cymru iachach.
Er mwyn cyflawni ein nod, mae gennym dair blaenoriaeth strategol:
Er mwyn ein galluogi i gyflawni hyn, rydym wedi datblygu Gofal Diogel Gyda'n Gilydd, sydd wedi'i gynllunio i alluogi Gwelliant Cymru i hyfforddi a chefnogi sefydliadau i wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau, er mwyn ymgorffori Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Bydd Gwelliant Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â phob ymddiriedolaeth a bwrdd iechyd sy'n dymuno ymuno â'r rhaglen. Drwy gymorth wedi'i gydgysylltu'n genedlaethol ac wedi'i ddarparu'n lleol, byddwn yn helpu sefydliadau i nodi eu blaenoriaethau gwella diogelwch, ac yna'n datblygu a chyflawni eu cynlluniau gwella pwrpasol eu hunain.
Ar ran GIG Cymru, rydym wedi partneru â’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) i greu’r Partneriaeth Gofal Diogel gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi lledaenu a chynyddu gwella diogelwch cleifion o fewn sefydliadau yn dilyn proses o greu'r amodau, adeiladu'r gallu a gwneud y cysylltiadau.
Darllenwch fwy am ein strategaeth a chysylltwch â ni i'w datblygu ymhellach.