Mae’r Hyb Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol hwn yn seiliedig ar y Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol a ddatblygwyd gan y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI).
Mae’r gwaith a arweinir gan Weithrediaeth GIG Cymru, megis y Bartneriaeth Gofal Diogel, yn defnyddio’r fframwaith i gefnogi darparu gofal mwy diogel ar draws GIG Cymru.
Mae’r Hyb hwn wedi’i gynllunio ar gyfer:
Mae'r fframwaith yn nodi'r elfennau rhyng-gysylltiedig sydd eu hangen i greu amgylchedd sy'n galluogi gwella, ac yn dwyn ynghyd y cysyniadau strategol, clinigol a gweithredol sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau gofal diogel, dibynadwy ac effeithiol.
Bydd gwreiddio'r fframwaith yn cefnogi datblygiad diwylliant a system ddysgu ledled GIG Cymru a fydd yn galluogi gwelliant i ffynnu.
Mae'r fframwaith yn cynnwys naw cydran gydgysylltiedig. Yn hollbwysig, mae ymgysylltu â chleifion a’u teuluoedd wrth wraidd y fframwaith – ac yn ysgogi ffocws y gwaith i ddarparu gofal diogel, dibynadwy ac effeithiol.
Yn y fideo byr hwn a gynhyrchwyd gan IHI (3 munud 20 eiliad), mae’r arbenigwr diogelwch Jennifer Lenoci-Edwards yn disgrifio pob elfen o’r fframwaith a sut y gall sefydliadau ei ddefnyddio i greu system gynaliadwy o ddiogelwch.
Os ydych chi'n dechrau o fewn eich sefydliad, rydym yn argymell archwilio'r parth diwylliant yn gyntaf (diogelwch seicolegol, atebolrwydd, gwaith tîm a chyfathrebu, negodi ac arweinyddiaeth) cyn archwilio eich system ddysgu (tryloywder, dibynadwyedd, gwelliant a mesur a dysgu parhaus).
1Diffiniadau fel yr amlinellir yn Frankel A, Haraden C, Federico F, Lenoci-Edwards J. A Framework for Safe, Reliable, and Effective Care. White Paper. Cambridge, MA: Institute for Healthcare Improvement and Safe & Reliable Healthcare; 2017. (Ar gael yn ihi.org)
Bydd yr Hyb hwn yn datblygu dros amser wrth i ni weithio gyda chi i ddeall eich anghenion ymhellach o bob rhan o GIG Cymru.
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ac awgrymiadau ar gyfer adnoddau.
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio: qsi.executive@wales.nhs.uk