Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi'r prosiectau o Gymru sydd ar restr fer Cyfnewidfa Q 2024

Mae 30 o brosiectau gwych wedi cyrraedd y rhestr fer yn rhaglen Cyfnewidfa Q, sef rhaglen gyllido Q, a byddant yn symud ymlaen i bleidlais gan y gymuned gyfan.

Mae Cyfnewidfa Q yn rhaglen gyllido cydweithredol, a gefnogir gan y Sefydliad Iechyd a GIG Lloegr. Mae’n cynnig cyfle i aelodau Q o bob rhan o’r DU ddatblygu syniadau am brosiectau a chyflwyno ceisiadau am hyd at £40,000 o gyllid. Mae’r thema eleni yn canolbwyntio ar sut y gallwn wella ar draws ffiniau systemau.

Rydym wrth ein bodd bod tri phrosiect o Gymru wedi'u cynnwys yn y gyfres drawiadol o syniadau.


Y prosiectau o Gymru yw:

Datblygu gwasanaeth ADHD arbenigol i Oedolion ar gyfer Caerdydd a'r Fro

Nod y prosiect hwn yw sefydlu llwybr safonol ar gyfer asesu a gwneud diagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ymysg oedolion. Y nod yw gwella mynediad at wasanaethau ADHD arbenigol i'r rhai sydd ei angen.

Traciwr gwerth i alluogi gofal cynaliadwy sy'n seiliedig ar werth ac sy'n canolbwyntio ar gleifion            

Nod y prosiect hwn yw datblygu trosolwg data cynhwysfawr o'r person sydd wrth wraidd gofal iechyd, gyda'r nod o werthuso a mesur gwerth a chynaliadwyedd y gwasanaethau.

Mynd Ymhellach Gyda'n Gilydd: Gwella gofal trwy fath newydd o bartneriaeth                      

Nod y prosiect hwn yw mynd i'r afael ag amddifadedd yng nghymoedd De Cymru trwy weithio mewn partneriaeth i i roi adnoddau'r GIG yn y cymunedau hynny.


Sut i bleidleisio?                                               

Gall aelodau Q adolygu'r rhestr fer lawn a phenderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn eu pum pleidlais ar wefan Q.

Bydd y pleidleisio yn agor ddydd Mercher 29 Mai a bydd modd pleidleisio tan 12 Mehefin.

Bydd yr 20 syniad a fydd yn derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael eu dewis i dderbyn y cyllid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gyfnewidfa Q neu'r bleidlais, cysylltwch â'r tîm yn QExchange@health.org.uk.