Neidio i'r prif gynnwy

Ffrydiau gwaith

Mae ein Harweinydd Rhaglen Gweithlu ac Addysg yn cydlynu'r broses o ddarparu'r ffrwd waith hon drwy'r Grŵp y Gweithlu Delweddu a Thrawsnewid Addysg (IWETG).

Nod Grŵp y Gweithlu Delweddu a Thrawsnewid Addysg yw:

  • Rhoi safbwynt arbenigol a Chymru gyfan ar fanteisio i’r eithaf ar y rolau, addysg, hyfforddiant a chynllunio ar gyfer pob gweithlu o fewn gwasanaethau Delweddu
  • Cefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i gynllunio a darparu gwasanaethau delweddu effeithlon ac effeithiol, sy'n cyd-fynd ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru, Strategaeth Adfer a Thrawsnewid Diagnosteg Cymru, a Chynllun y Gweithlu Diagnosteg
  • Gweithio ar draws Rhaglenni Cenedlaethol ac mewn partneriaeth agos ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni nodau cyffredin
  • Cynnal trosolwg o'r gweithlu Delweddu ac addysg ledled Cymru, gan sganio'r gorwel ar yr un pryd i nodi potensial cyfleoedd eraill
  • Cyflawni dyfodol cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau delweddu sy'n dangos gwerth am arian ac sy'n addas i'r diben.
Strategaeth i Ddatblygu Gweithlu Radioleg ar gyfer Cymru

Yn ystod 2021/22 gwnaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru gefnogi'r Grŵp Gweithlu Delweddu ac Addysg a'r Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol i ddatblygu Model Datblygu Gweithlu Delweddu GIG Cymru – Strategaeth ar gyfer Datblygu Gweithlu Radioleg i Gymru.

Y 'Strategaeth ar gyfer Datblygu Model Gweithlu Radioleg i Gymru' yw'r allbwn cyntaf yn y broses o ddatblygu Model Gweithlu Delweddu GIG Cymru.

Mae'r Strategaeth yn nodi nifer o argymhellion i gefnogi a hwyluso datblygu gweithlu Radioleg cryf, cydnerth a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae'r argymhellion hyn yn gofyn am ddull gweithredu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod y buddion yn cael eu cyflawni i gleifion a staff.

Mae'r Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol wedi ymrwymo i oruchwylio'r gwaith o reoli a gweithredu'r argymhellion hyn drwy raglen waith, cydlynu, ac ysgogi’r gwaith o gyflawni'r argymhellion y mae angen ymdrin â nhw'n genedlaethol gan hefyd gefnogi sefydliadau gyda'u gweithredu lleol.

Strategaeth i Ddatblygu Model Gweithlu Radioleg ar gyfer Cymru

Cynllun Gweithredu Lefel Uchel Trawsnewid y Gweithlu Delweddu ac Addysg 

Strategaeth ar gyfer Datblygu Gweithlu Radioleg i Gymru – Llythyr at Brif Swyddogion Gweithredol 
 

Mae arweinydd ein rhaglen ansawdd yn cydlynu'r broses o gyflenwi’r ffrwd waith hon drwy Fforwm Ansawdd Delweddu Cymru Gyfan (AWIQF).

Mae'r Fforwm Ansawdd Delweddu Cymru Gyfan yn grŵp sefydledig sy'n goruchwylio materion sy'n ymwneud â safoni ansawdd a’i nod yw:

  • Datblygu dull mwy cyson o reoli ansawdd delweddu yng Nghymru, gan gynnwys safoni a mentrau cynwysoldeb
  • Cefnogi a rhannu arfer gorau yng Nghymru 
  • Cefnogi gweledigaeth y rhaglen ar gyfer Ansawdd a'r Datganiad o Fwriad Delweddu
  • Datblygu â gweithredu Safon Ansawdd sydd wedi’i chytuno arni ledled Cymru, gan gynnwys dadansoddiad cost a budd llawn
  • Cefnogi datblygu Grwpiau Ansawdd dulliau nawr ac yn y dyfodol
  • Ymchwilio i effeithiolrwydd posibl deallusrwydd artiffisial ar gyfer Delweddu yng Nghymru drwy'r Grŵp Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial Radioleg.

Nod ffrwd waith Cynllunio Adnoddau Strategol y Rhaglen Delweddu Genedlaethol yw cefnogi defnyddio adnoddau delweddu yn effeithlon ac effeithiol ar draws GIG Cymru. Mae Arweinwyr Rhaglen a Chlinigol y ffrwd waith hon yn gyfrifol am ddatblygu modelau a datrysiadau cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau delweddu yng Nghymru.

Mae enghreifftiau o'r gwaith hwn yn cynnwys:

  • Datblygu proses lywodraethu gadarn i gefnogi rhaglen amnewid offer cyfalaf cenedlaethol, cynaliadwy, â chanolbwynt clinigol ledled GIG Cymru, gan sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail anghenion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i ddefnyddio datrysiadau digidol i roi gwybodaeth busnes i gefnogi mwy o benderfyniadau wedi’u hysgogi gan ddata
  • Sefydlu cyfres o fesurau perfformiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gweithio gyda phartneriaid yn y maes digidol i ddatblygu dangosfwrdd adrodd cenedlaethol i sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer gwasanaethau delweddu
  • Cydweithio â Rhaglenni a Rhwydweithiau eraill i werthuso cyfleoedd ar gyfer trawsnewid llwybrau, er enghraifft, ffyrdd newydd o weithio neu ddefnyddio technolegau newydd.

Mae’r ffrwd waith hon yn cael ei chyflenwi drwy Rhaglen Caffael System Gwybodeg Radioleg.