Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Endosgopi Genedlaethol

Beth yw Endosgopi?

Mae endosgopi yn driniaeth lle edrychir ar organau y tu mewn i'ch corff gan ddefnyddio offeryn a elwir yn endosgop. Mae endosgop yn diwb hir, tenau, hyblyg sydd â golau a chamera ar un pen. Mae delweddau o du mewn eich corff yn cael eu dangos ar sgrin. Gellir rhoi endosgopau yn y corff trwy'r geg ac i lawr y gwddf, neu drwy'r gwaelod.

Mae gwasanaethau endosgopi yn chwarae rhan hanfodol wrth ymchwilio i achosion o amheuaeth o ganser a chanlyniadau sgrinio coluddion cadarnhaol, yn ogystal â darparu apwyntiad dilynol i bobl â diagnosis blaenorol a darparu triniaeth ymyriadol. Mae endosgopi yn darparu rôl yr un mor bwysig ar gyfer cyflyrau difrifol nad ydynt yn ganseraidd, fel clefyd llidiol y coluddyn.

Rhaglen Endosgopi Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu gwasanaethau endosgopi yng Nghymru. Mae nifer y gweithdrefnau endosgopi sydd eu hangen ar gynnydd ac mae hyn wedi arwain at anghydbwysedd sylweddol rhwng y galw â'r capasiti craidd sydd ar gael.

Yng ngoleuni'r heriau hyn, sefydlwyd y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol yn 2019 gyda'r nod o ddatblygu gwasanaethau endosgopi cynaliadwy ac fe'i hategir gan bedair ffrwd waith.

Nid yw'r rhaglen genedlaethol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol; byrddau iechyd sy'n parhau i fod yn gyfrifol am y rhain. Mae cwmpas y rhaglen yn cynnwys pob endosgopi gastroberfeddol a ddarperir neu a gomisiynir gan y GIG yng Nghymru.

Cynllun gweithredu'r Rhaglen Endosgopi Genedlaethol

Datblygwyd cynllun gweithredu'r Rhaglen Endosgopi Genedlaethol (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019) mewn ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn 2018 ac mae'n nodi cynllun gwella fesul cam i gefnogi byrddau iechyd i ddatblygu gwasanaethau endosgopi cynaliadwy. Cyhoeddwyd y cynllun gweithredu diwygiedig yn hydref 2020.

Cysylltwch â ni

Gellir cysylltu â ni drwy e-bost yn: National.EndoscopyProgramme@wales.nhs.uk

Dewch o hyd i ni ar Twitter yn @WalesNEP

Dewch o hyd i'n cylchlythyrau yma.