Mae gwaith wedi parhau ar nifer o feysydd gwella.
Mae'r papur strategaeth a'r cynllun gweithredu i ddatblygu cynaliadwyedd, hyfforddiant ac addysg ar gyfer y gweithlu patholeg dros y pum mlynedd nesaf wedi'u hadolygu gan gymheiriaid y ffrwd waith, cydweithwyr yn AaGIC a rhanddeiliaid eraill. Mae'r sylwadau wedi'u hystyried ac mae'r strategaeth ddiwygiedig a'r cynllun gweithredu wedi'u hanfon at aelodau PWEG i'w cymeradwyo yn ei gyfarfod ym mis Ionawr. Yna bydd yn dilyn trefn lywodraethu’r Rhaglen ac yn cael ei chyflwyno i Grŵp Strategol y Rhaglen i’w chymeradwyo, ac yna’n cael ei chyflwyno i’r Bwrdd Strategol a Gweithredol Diagnosteg Cenedlaethol.
Rydym wrth ein bodd bod y 'peilot' o rôl Hwylusydd Addysg Ymarfer ym maes Patholeg (PEF) ym myrddau iechyd De-ddwyrain Cymru wedi cychwyn ar ddechrau mis Tachwedd a bod Tahir Mohammed yn y rôl hon.
Ceir rhagor o wybodaeth am y 'peilot' yma.
Mae bywgraffiad ar gyfer Tahir ar gael yma.
Mae'r Rhaglen yn parhau i weithio gyda Phatholeg Gellog BIPBC a BIPCF i drefnu cwrs hyfforddi peilot ar gyfer adroddiadau BMS cwmpas cyfyngedig i gefnogi rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru, a ariennir gan Moondance Cancer Initiative. Rydym yn rhoi’r trefniadau ar waith ar gyfer y cwrs hyfforddi 'peilot' fel y gall ddechrau yn BIPBC a BIPCF yn ystod 2024.
Mae rhagor o gynnwys wedi'i ychwanegu at dudalennau Hyfforddiant ac Addysg Patholeg SharePoint, sy'n ffurfio academi rithwir Patholeg interim. Mae hwn yn cael ei ddatblygu i rannu deunydd/adnoddau hyfforddi ac addysg ar gyfer pob disgyblaeth ar draws y byrddau/ymddiriedolaethau iechyd. Mae'r papur ar sicrhau ansawdd y cynnwys i'w gymeradwyo gan PWEG yn y flwyddyn newydd. Cynhaliwyd trafodaethau pellach ym mis Rhagfyr gyda chydweithwyr yn AaGIC ynghylch defnyddio safle'r Tŷ Dysgu ar gyfer academi patholeg ar-lein barhaol, a fyddai'n darparu swyddogaethau ychwanegol ar gyfer eDdysgu. Gobeithiwn allu rhoi rhagor o wybodaeth am y datblygiad cyffrous hwn i chi yn y cylchlythyr nesaf.
Fel bob amser, rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sy’n rhan o ddatblygu'r darnau hyn o waith.