Yn ddiweddar, mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi cael adolygiad a diwygiad o’i drefniadau llywodraethu ac mae’r Rhaglen Batholeg Genedlaethol wedi alinio â’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal wedi’i Gynllunio ochr yn ochr â dulliau diagnostig strategol eraill (Delweddu ac Endosgopi).
Mae ein rhaglen bellach yn bwydo i mewn i Fwrdd Gofal wedi’i Gynllunio Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a rhagwelir y bydd angen diagnosteg i roi sicrwydd i’r bwrdd hwn o ran data ansawdd y gwasanaeth a data perfformiad yn y dyfodol.
Mae Grŵp Ansawdd Patholeg a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol Cymru (PQARCG) mewn sefyllfa dda i gefnogi’r gwaith hwn ac mae ganddo eisoes ddealltwriaeth dda o achrediad UKAS ledled y wlad. Mae hefyd yn darparu cymorth cymheiriaid i’r labordai a’r gwasanaethau hynny sy’n cael eu hasesu neu sy’n darparu tystiolaeth i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio.
Mae'r ffrwd waith hon hefyd wedi casglu gwybodaeth yn ymwneud â thrwyddedu sefydliadau gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn ddiweddar. Sefydlwyd y Grŵp Cydymffurfiaeth Patholeg Anatomegol a’r Gweithlu (APCWG) ar ddiwedd 2023. Mae’n ceisio cefnogi gwasanaethau corffdai ym mhob mater sy’n ymwneud â thrwyddedu gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA).
Rhagwelir y bydd PQARCG ac APCWG yn cefnogi gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu dangosfwrdd sicrwydd ansawdd patholeg, y gellir ei ddefnyddio yn ei dro i goladu a darparu gwybodaeth i’w bwydo i’r Bwrdd Gofal wedi’i Gynllunio Cenedlaethol maes o law.