Neidio i'r prif gynnwy

Ein staff newydd

Tahir Mohammed, Hwylusydd Addysg Ymarfer Patholeg 

Tahir ydw i, Hwylusydd Addysg Ymarfer ar gyfer y gwasanaethau Patholeg yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae gen i dros 15 mlynedd o brofiad ym maes patholeg ddiagnostig, yn y sector cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd.  Ymunais â BIPAB fel Gwyddonydd Biofeddygol yn 2006 a symud ymlaen i fod yn uwch swyddog Biocemeg a chael swydd fel swyddog hyfforddi ac arweinydd awtomeiddio. Yna es ymlaen i reoli Labordy Covid IP5 Cymru Gyfan yng Nghasnewydd ac yna i weithio i Siemens fel Rheolwr Iechyd Cynnyrch. 

Mae fy niddordebau allweddol yn cynnwys addysgu, gwella gwasanaethau ac arloesi a chredaf yn angerddol fod diagnosteg yn hwylusydd ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol. 

Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r her newydd hon, yn enwedig gan fod ein gwasanaethau patholeg dan bwysau aruthrol. Rwy’n bwriadu cyfrannu at y gwaith parhaus y mae’r Rhaglen Patholeg Genedlaethol yn ei wneud a byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithlu cynaliadwy, hyfforddiant ac addysg ar draws pob disgyblaeth. Rwy’n awyddus i glywed am y materion sy’n ymwneud â hyfforddiant ar draws maes patholeg a’m nod yw darparu ateb iddynt.

Rwy’n teimlo’n freintiedig o fod yn gweithio gyda’r Rhaglen i gael effaith gadarnhaol ar ein darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau. 

Lauren O’Gorman, Deallusrwydd busnes

Lauren ydw i, Dadansoddwr Deallusrwydd Iechyd Uwch ar gyfer y Gwasanaeth Deallusrwydd Iechyd sy'n cefnogi Rhwydweithiau a Chynllunio. Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau gradd Meistr mewn gwyddor data a dadansoddeg ac mae gennyf ddeng mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes deallusrwydd iechyd, ar ôl gweithio o'r blaen yn Uned Deallusrwydd ac Arolygiaeth Canser Cymru, y Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy a'r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy. 

Rwy'n angerddol am wneud data cymhleth yn hygyrch ac yn ddealladwy.  Fy nod yw meithrin diwylliant o lythrennedd data sy'n ystyried data iechyd nid yn unig fel gwybodaeth ond fel ased strategol sy'n galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus.

Y tu allan i'r gwaith, rwy’n mwynhau'r awyr agored gyda'm tri phlentyn pan fydd y tywydd yn caniatáu i ni wneud hynny, neu'n darllen ffuglen trosedd pan nad yw'r tywydd yn dda.