Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Patholeg Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Ymunodd staff o wasanaethau Patholeg ar draws De-orllewin a Chanolbarth Cymru â Rhaglen Patholeg Ranbarthol ARCH a rheolwyr gwasanaeth y mis diwethaf mewn cyfres o weithdai yn amlinellu cynnydd ar sefydlu Gwasanaeth Patholeg Rhanbarthol newydd ar gyfer y rhanbarth.

Bydd y gwasanaeth rhanbarthol newydd hwn yn cael ei greu fesul cam, a disgwylir i Gam 1 (recriwtio ei uwch dîm rheoli) ddigwydd erbyn mis Ebrill 2024.  Bydd y tîm rheoli newydd hwn yn bwrw ymlaen â'r broses o weithredu'r gwasanaeth rhanbarthol newydd i'w lansio'n llawn. Yn y cyfamser, mae gwaith yn parhau i greu Achos Busnes Amlinellol, gan gynnwys dylunio adeilad Hwb Patholeg newydd arfaethedig yn Ysbyty Treforys.  

Bydd y gwasanaeth rhanbarthol yn cynnwys yr holl wasanaethau Patholeg a ddarperir ar hyn o bryd ar draws BIP Hywel Dda a Bae Abertawe.  Bydd ar ffurf Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol, a letyir gan BIPBA, a bydd yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau Microbioleg ar gyfer y rhanbarth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Sharepoint newydd y gwasanaeth rhanbarthol (cliciwch ar SharePoint Rhaglen Patholeg Ranbarthol Gorllewin Cymru i gael mynediad).  Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin hefyd ar gael ar y wefan.  Wrth i ragor o wybodaeth ddod i'r amlwg, bydd yn cael ei darparu drwy SharePoint, gweithdai yn y dyfodol ac erthyglau mewn cylchlythyron. 

Os oes gennych gwestiwn am y gwasanaeth rhanbarthol newydd, neu os hoffech dderbyn diweddariadau amdano yn y dyfodol, e-bostiwch y tîm yn ARCH.WWRPP@wales.nhs.uk