Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad o Adleoli Canolfan Iechyd Genomig Cymru

O 6 Tachwedd 2023, bydd cydweithwyr o Bartneriaeth Genomeg Cymru, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Uned Genomeg Pathogen (PenGU) a Rhaglen Genomeg Iechyd y Cyhoedd, a Pharc Geneteg Cymru, yn dechrau adleoli mewn cyfleuster newydd yn Coryton, Gogledd Caerdydd.

Bydd y symudiad Cam 1 hwn yn cynnwys adleoli'r timau canlynol:

  • Gwasanaeth a rheolaeth glinigol Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
  • Addysg ac Ymgysylltu Parc Geneteg Cymru
  • Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Rhaglen Genomeg Iechyd y Cyhoedd
  • Swyddfa Rhaglen Partneriaeth Genomeg Cymru
  • Bydd Cam 2 yr adleoli yn dechrau yn 2024.

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad, gallwch ymweld â gwefan Partneriaeth Genomeg Cymru.