Neidio i'r prif gynnwy

Ffocws

'Peilot' Swyddogaeth Hwylusydd Addysg Ymarfer Patholeg mewn Gwasanaethau Patholeg

Mae’r Rhaglen Patholeg Genedlaethol wedi sefydlu astudiaeth ‘beilot’ yn y tri bwrdd iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru i ystyried sut y gallai’r math hwn o rôl gefnogi hyfforddiant ac addysg mewn patholeg yn GIG Cymru a mynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran y capasiti i hyfforddi’r gweithlu cyfredol a gweithlu’r dyfodol.  Mae hyn wedi'i gynnwys yn strategaeth a chynllun gweithredu'r Rhaglen (a gyhoeddir cyn bo hir) i ddatblygu cynaliadwyedd, hyfforddiant ac addysg y gweithlu patholeg ac mae'n cyd-fynd â Chynllun Gweithlu Diagnostig AaGIC sy'n cael ei ddatblygu.

Bydd y ‘peilot’ yn archwilio sut y gallai Hwyluswyr Addysg Ymarfer gefnogi strwythurau a thimau hyfforddi patholeg mewn bwrdd iechyd/ymddiriedolaeth neu ranbarth drwy, er enghraifft, hyfforddiant mewnol, lleoliadau ac allgymorth gyrfaoedd, a bydd yn dogfennu’r manteision a’r effaith y gall rôl o’r fath eu cynnig.    Bydd hefyd yn cefnogi cydweithio rhwng y byrddau iechyd a rhannu arferion gorau o ran hyfforddiant.  Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, gallai’r rôl gael ei hymestyn ar draws maes patholeg yng Nghymru i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth.

Rydym yn falch iawn fod Tahir Mohammad wedi dechrau ar ei swydd yn ddiweddar fel Hwylusydd Addysg Patholeg ar gyfer y 'peilot' - mae ei fywgraffiad ar ddiwedd y cylchlythyr hwn. Mae wedi dechrau cwrdd ag Arweinwyr Hyfforddiant Patholeg a swyddogion hyfforddi yn y tri bwrdd iechyd, a chyda chydweithwyr yn GIG Lloegr ynghylch gweithrediad llwyddiannus ei raglen a rhwydwaith Arweinwyr Hyfforddiant Patholeg.  Bydd hefyd yn cysylltu â Hwyluswyr Addysg Ymarfer mewn proffesiynau eraill yn GIG Cymru. Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd mewn rhifynnau o'r cylchlythyr yn y dyfodol wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Diolch i'r Arweinwyr Hyfforddiant Patholeg ac i swyddogion a chydweithwyr yn AaGIC am eu cefnogaeth wrth sefydlu'r 'peilot' hwn.