Sefydlwyd y Grŵp Cyflawni POCT Cenedlaethol yn 2006 fel rhwydwaith anffurfiol o reolwyr a chydlynwyr POCT ar draws Cymru ac fel fforwm agored i drafod y trefniadau ar gyfer gweithredu rhaglenni POCT newydd, rhannu’r arferion gorau a hysbysu’r llywodraeth ar faterion ansawdd a diogelwch. Mae’r aelodau hefyd yn cynnwys arbenigwyr gwybodeg a chaffael. Gan wasanaethu poblogaeth o ≈ 3.1M, caiff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ei ddarparu gan 7 o fyrddau iechyd a 3 o ymddiriedolaethau arbenigol. Mae’r byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth POCT mewn 15 o Ysbytai acíwt mawr, 21 o Unedau mân-anafiadau (MIU), 18 o Ysbytai iechyd meddwl a 30 o Ysbytai Cymuned, a hefyd am gomisiynu gwasanaethau dros 2000 o feddygon teulu.
Mae’r Tîm POCT ym mhob bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu’r sicrwydd bod y prawf a’r ansawdd iawn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ei ddefnyddioldeb clinigol, bod defnyddwyr wedi’u hyfforddi ac yn gymwys i wneud y prawf, bod pawb yn deall cyfyngiadau’r prawf, y ceir mynediad i bersonél sy’n gallu dehongli’r prawf yn gywir ac y ceir trywydd archwilio cyflawn o’r broses. Mae hyn yn cynnwys; cytuno ar fanyleb ar gyfer caffael POCT, cyngor ar ddefnyddioldeb clinigol y prawf, gwerthuso ansawdd, asesiad o hyfforddiant a chymhwysedd, cyngor ar seilwaith TG a chysylltedd dyfeisiau, monitro’r trefniadau sicrhau ansawdd, cadw golwg ar berfformiad, cadw golwg ar drefniadau llywodraethu a gwneud adroddiadau ar ddigwyddiadau yn y bwrdd iechyd. Mae eu cylch gorchwyl yn cwmpasu gofal eilaidd, gofal yn y gymuned a gofal sylfaenol. Mae’r grŵp Cyflawni yn cyfarfod bob 6-8 wythnos ac mae wedi aeddfedu dros y degawd diwethaf i gyflwyno nifer o raglenni gwaith penodol:
Bocs 1: Gweithio gyda’n gilydd ar gyfer ateb cenedlaethol ar gyfer monitro INR mewn gofal syfaenol – beth wnaethon ni?
Wedi datblygu fframweithiau caffael seiliedig ar werth gyda rhanddeiliaid (arweinwyr gofal sylfaenol, cydlynwyr POCT, fferyllwyr, arweinwyr GMC, nyrsys thrombosis arweiniol)
Danfoniadau:
Deunyddiau traul a chyfarpar
Meddalwedd dosio a rhyngwynebau
Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a chleifion
Opsiwn ar gyfer hunan-fonitro/brofi/reolaeth
Cyflenwad a dosbarthu ar draws GIG Cymru
Llinell gymorth/cymorth technegol ar gyfer cleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd
Darparu sicrwydd ansawdd allanol (EQA)
Data deallusrwydd busnes ac adroddiadau
Mae gan rwydweithio fanteision amlwg, megis dysgu a rhannu’r arferion gorau, gwybodaeth a ffynonellau gwybodaeth, yn ogystal â bod yn gefn ac yn gymorth pan fo angen. Mae’r manteision ariannol yn cynnwys contractau caffael cost-effeithiol drwy arbedion maint, gwell effeithlonrwydd drwy safoni dyfeisiau, safoni prosesau megis asesu cymhwysedd a hyfforddiant, a gweithio ar y cyd i
wella’r ddarpariaeth gwasanaethau ynghyd â dull symlach o drefnu gwasanaeth POCT yn gyflym pan fo angen.
Bocs 2: CRP mewn cleifion gyda haint anadlol a amheuir
Mewn gofal sylfaenol – POCT CRP wedi darparu i 75 o feddygon teulu – Darparu cenedlaethol wedi cynllunio ar gyfer 500 o feddygon teulu.
Bocs 3: Protocol ar gyfer gwaedlif ôl-esgor
Ateb cenedlaethol cydlynol a safonedig
Protocol obstetreg Cymru cyfan yn defnyddio POCT
Cynlynwyr POCT i gyd wedi hyfforddi fel uwch-ddefnyddwyr
Gweithredwyr i gyd wedi hyfforddi
Rhaglen EQA wedi datblygu gan Weqas
Roedd y dull cydweithredol hefyd yn rhoi mwy o lais i POCT yn y Llywodraeth. Anfantais grŵp anffurfiol oedd adnoddau a strwythurau staff anghyson rhwng byrddau iechyd; roedd gofynion gwasanaethau yn wahanol ac nid oedd gan rai’r capasiti na’r adnoddau i gyflawni’r hyn oedd angen; collwyd y cyfle i gael gwasanaethau mwy “cydgysylltiedig” ar draws Cymru gyfan. Yn ogystal, cyfyngwyd y cwmpas i brofion patholeg ar gyfer y rhan fwyaf o’r Adrannau ac felly roedd dyfeisiau ffisioleg cardiaidd, resbiradol, delweddu naill ai heb gael eu hystyried neu fe welwyd y trefniadau llywodraethu yn cael eu dyblygu.
Bocs 4: Y seilwaith iawn – WPOCT
System sy’n cefnogi trefniadau i wneud penderfyniadau ar y cyd yn darparu seilwaith I alluogi cysylltedd llawn i’r holl ddyfeisiau POCT a gymeradwywyd ar draws Cymru ym mhob lleoliad addas.
Mae hyn yn galluogi cleifion a gweithredwyr cael ei adnabod yn glîr, gwneud gwiriad sicrwydd answadd o berfformiaid dysfeisiau, cymhwysedd gweithredwr a rheolaeth deunyddiau traul ar gyfer profion mwy diogel, cyfnewid data diogel a chadarn, casglu data hygyrch i gefnogi trywydd archwilio cyflawn a mesur canlyniad, rhannu gwybodaeth rhwng tîmau clinigol.
Beth wnaethon ni ei gysylltu?
7 o fyrddau iechyd ac un ymddiriedolaeth arbenigol canser.
Mwy na 3200 o ddyfeisiau
Dros 35 o ryngwynebau yn cynrychioli amrywiaeth eang o ddyfeisiau – glwcos, keton, HbA1c, prawf dadansoddi wrin, microalbumin, ceulo, dadansoddi haematoleg, prawf beichiogrwydd, profion llafur cynamserol, profion cyflym ar gyfer marcwyr clefydau heintus, nwy gwaed, cyffuriau cam-drin, D-dimer.
Peilot mewn cysylltedd INR i feddygon teulu a chartefi cleifion.
Mae gwaith i’w wneud o hyd:
Adolygu dyluniad y seilwaith ar gyfer cysylltedd gofal sylfaenol a chymunedol.
Datblygu dangosfwrdd deallusrwydd busnes ar gyfer mesurau canlyniad.
Gan adeiladu ar lwyddiant y rhwydwaith anffurfiol, un o’r camau gweithredu allweddol yn Natganiad o Fwriad y Rhaglen Patholeg Genedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2019, oedd sefydlu trefniant mwy ffurfiol i gyflwyno gwasanaethau Profi Lle Rhoddir Gofal yn GIG Cymru. Cafodd Grŵp Strategaeth Cenedlaethol o arweinyddion clinigol a Rheolwyr POCT o bob bwrdd iechyd, rhanddeiliaid a
chynrychiolwyr y llywodraeth ei sefydlu gyda’r nod o bennu’r strategaeth a’r safonau, gyda’r Grŵp Cyflawni POCT Cenedlaethol yn helpu i gyflwyno’r gwasanaeth. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig, cafodd gwaith y ddau grŵp ei addasu er mwyn dilysu dulliau / dyfeisiau POCT ymgeiswyr fel rhan o’r strategaeth profion COVID ac adnabod problemau gweithredol a rhoi cyngor yn eu cylch.
Bocs 5: Ymateb cenedlaethol i’r pandemig COVID
Yn ymateb i’r pandemig COVID, creodd Llwyodraeth Cymru cynllun cenedlaethol profion a oedd yn cynnwys dull cam wrth gam o brofi. Dau nod penodol oedd cyflawni profion gwrthgorff ac antigenau llif ochrol i adnabod pwy wedi dod I gysylltiad â’r firws a monitro’r ymateb imiwned, a defnyddio profion POCT antigenau a gwrthgorff i rheoli achosion mewn lleoedd fel carchardai, cartrefi gofal, ac ysbytai.
Yn y dechrau roedd angen dod o hyd i ddulliau a phecynnau ymgeisydd. Ffurfiwyd is-grŵp arbennig I roi cyngor arbenigol ar y gwyddoniaeth a’r heriau ymaferol o’r dyfeisiau. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys gwyddonwyr biofeddygol, imiwnolegwyr, academyddion, arbenigwyr TG, logistegwyr, staff caffael, a nyrsys.
Cafodd gwaith y bwrdd Strategaeth POCT cenedlaethol a Grŵp Cyflawni POCT cenedlaethol ei addasu er mwyn dilysu ‘Cymru cyfan’ dulliau/dyfeisiau POCT ymgeiswyr a gwerthuso dyfeisiau amlblecs i baratoi ar gyfer tymor firws resbiradol y gaeaf, yn ogystal â adnabod gofynion gweithredol fel adnodd sydd ei angen, hyfforddiant, casglu data, cysylltedd TG, a monitro ansawdd y dyfeisiau hyn.
- wedi datblygu fideos ac adnoddau hyfforddi ar gyfer profion gwrth-gorff ac antigenau SARS-CoV-2.
- Profi o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer cysylltedd dyfeisiau newydd a datblygu codau newydd gyda sylwadau deongliadol safonedig.
Roedd mentrau ymchwil a datblygu yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys gwaith ar sero-gyffredinolrwydd, dullau newydd yn defnyddio smotiau gwaed sych, a chymryd rhan yn yr astudiaeth FALCON (Facilitating Accelerated Clinical evaluation of Novel Diagnostic tests for COVID-19) er mwyn adnabod a dilysu profion POCT antigenau ymgeiswyr ar gyfer gofal eilaidd.
Yn 2023, cafodd Strategaeth PoCT Genedlaethol ei datblygu, gan amlygu’r weledigaeth ar gyfer cyflwyno gwasanaethau yn ogystal â chreu Bwrdd Strategaeth PoCT Cenedlaethol mwy ffurfiol; cafodd Bwrdd dan arweiniad clinigwyr ei sefydlu i gydlynu, a chefnogi’r gwaith o gynllunio, gweithredu, a chyflwyno gwasanaethau PoCT. Mae gwasanaeth PoCT “Cymru’n un” sy’n canolbwyntio ar gleifion ac sy’n gydnaws â “Cymru Iachach”