Pan gânt eu defnyddio'n briodol, gall Profion Pwynt Gofal wella canlyniadau cleifion drwy:
- Ddarparu canlyniad cyflym sy'n galluogi ymyriadau therapiwtig ymatebol
- Gwella cydymffurfiaeth cleifion â thriniaeth
- Gwella'r ffordd y caiff triniaeth ei hoptimeiddio
- Lleihau'r angen am ymweliadau ag ysbytai
- Cynyddu boddhad, cyfleustra a derbynioldeb cleifion
- Lleihau hyd arhosiad
- Lleihau cymhlethdodau
- Lleihau'r gost gyffredinol i GIG Cymru.
Mae canlyniadau profion a gyflwynir mewn modd amserol yn sicrhau bod pobl yn cael eu trin ac yn derbyn gofal yn y ffordd gywir, ar yr adeg gywir, yn y lle iawn a chyda'r staff cywir.