Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae’r gyfarwyddiaeth Perfformiad a Sicrwydd yn cynorthwyo sefydliadau GIG Cymru i wella a chynnal eu perfformiad yn barhaus yn erbyn gofynion perfformiad, ansawdd a diogelwch cenedlaethol.
Rolau allweddol:
Mae’r gyfarwyddiaeth Perfformiad a Sicrwydd yn dîm amlddisgyblaethol gyda thair swyddogaeth graidd:
Cyflawni Gweithredol - darparu trosolwg ar berfformiad a sicrwydd, gwella ansawdd a pherfformiad trwy weithio gyda rhanddeiliaid.
Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - arwain adolygiadau sicrwydd cenedlaethol a lleol i wella ansawdd a lleihau amrywiadau.
Sicrwydd Ansawdd Diogelwch - datblygu, monitro a darparu systemau a phrosesau sicrhau ansawdd cenedlaethol.