Neidio i'r prif gynnwy

Arddangosfa Gwybodaeth – oriel bosteri

Rydym yn cynnig cyfle unigryw i arddangos ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch gwelliannau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac a arweinir gan anghenion ym maes iechyd meddwl yng Nghymru.

Fel rhan o Gyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru, bydd arbenigwyr yn ôl galwedigaeth a phrofiad yn ymgynnull ar gyfer cynhadledd ddeuddydd yn Aberystwyth. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn gwahodd timau ac unigolion, o bob rhan o’r meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a’r Trydydd Sector, gan gynnwys unigolion neu grwpiau sydd â phrofiad bywyd, i gyflwyno posteri i arddangos ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y digwyddiad a gynhelir rhwng 3 a 4 Ebrill 2025.

Mae cyflwyno poster yn gyfle i dynnu sylw cenedlaethol at y gwaith gwella y mae eich tîm wedi’i wneud sy’n cael effaith gadarnhaol ar brofiadau a chanlyniadau cleifion. Bydd cynnwys y poster yn cyfrannu at y trafodaethau yn ystod y digwyddiad.

Bydd yr holl bosteri a gyflwynir yn cael eu harddangos yn y digwyddiad ac mewn oriel ar-lein.

 

Themâu’r posteri

Rhaid i’r posteri fod yn seiliedig ar un o’r themâu/is-themâu canlynol:

  • Thema 1: Trawsnewid y system iechyd meddwl gymunedol, sy’n cynnwys:
    • Gofal mynediad agored
    • Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n anelu at adferiad, ac sy’n ystyriol o drawma
    • Gwasanaethau iechyd cymunedol cysylltiedig, seiliedig ar leoedd
  • Thema 2: Ailddiffinio’r gweithlu iechyd meddwl
  • Thema 3: Gweithredu Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion/Mesurau Profiad a Adroddir gan Glaf yn systematig mewn gwasanaethau iechyd meddwl i gefnogi ac arddangos gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

 

Oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno poster?

Mae modd cwblhau ffurflen hysbysu diddordeb hyd at ddydd Gwener 14 Mawrth.

Nid oes rhaid i chi fod yn bresennol yn y digwyddiad. Gallwn rannu eich manylion cyswllt gyda phobl os byddant yn dymuno trafod y posteri gyda chi.

 

Teitlau adrannau’r poster:

Cyflwyniad:  Yn darparu'r cyd-destun ac yn esbonio pam mae'r pwnc yn bwysig.

Methodoleg: Pa ddulliau a ddefnyddiwyd i roi'r cynllun ar waith?

Canlyniadau: Pa ganlyniadau allweddol a ddeilliodd ohonynt a beth yw eu harwyddocâd?

Casgliad: Yn crynhoi'r negeseuon allweddol a gwaith posibl yn y dyfodol.

 

Meini prawf ar gyfer cyflwyno poster:

  • Dylai eich poster grynhoi eich gwaith fel y gall gwylwyr gael cipolwg ar y neges gyffredinol ac yna gallu darllen mwy i gael gwell ddealltwriaeth ohono.
  • Rhaid i chi geisio’r caniatâd gofynnol yn eich sefydliad cyn cyflwyno'ch poster terfynol.
  • Rhaid creu posteri a'u cyflwyno yn y templed PowerPoint, lle mae mwy o ganllawiau ar fformatio.