Mae'r is-grŵp CAMHS yn cefnogi'r cynlluniau sydd eu hangen i alluogi plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad amserol at y gwasanaeth cywir, yn arbenigol neu'n gyffredinol, ac i'w helpu i ddatblygu cryfderau a diogelu eu hiechyd meddwl.
Darpariaeth Unwaith i Gymru ar gyfer plant a phobl ifanc yw ein nod, gyda thegwch a chysondeb CAMHS yn cael eu darparu i chi ble bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru, gan ddefnyddio model aml-broffesiynol bio-seiciatro-gymdeithasol, yn seiliedig ar athroniaeth o ymyrraeth gynnar ac adferiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a gwrando ar eu profiadau wrth gynllunio gwasanaethau 'Chi sy’n gwybod orau ... felly rydym yn gwrando arnoch, yn ystyried eich profiad ac yn bwydo hyn yn ôl i wasanaethau ar gyfer gwell canlyniadau / deilliannau’.
Dechreuodd ein rhaglen adolygu clinigol gan gymheiriaid yn gyntaf ym maes gofal sylfaenol CAMHS y llynedd. Gwnaethom gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i roi gwybod i fyrddau iechyd am y newidiadau yr oedd angen eu gwneud fel bod taith y claf yn llai anodd a'i bod wedi'i theilwra. Yna, fe wnaethom fwydo'n ôl i fyrddau iechyd yr hyn yr oedd cleifion yn ei deimlo a'i ddweud am ofal sylfaenol CAMHS. (2019 - 2020)
Eleni rydym yn edrych ar wasanaethau mwy arbenigol i gael gwybod drwy wrando eto ar wasanaethau, staff a chleifion sut beth yw'r gwasanaethau mwy arbenigol, beth sy'n dda amdanynt, beth sydd angen ei newid a pha mor gyflym a pha mor dda y gallwn helpu byrddau iechyd i wneud y newidiadau hynny. (2020 - 2021)
Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i greu Fframwaith sy'n rhoi arweiniad ar y camau gofal sydd i'w darparu, er mwyn gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir a hyrwyddo dull cyson a theg ar draws GIG Cymru. Mae'n canolbwyntio ar ddarparu gofal o ansawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n profi iechyd meddwl gwael. Ei nod yw cefnogi model o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth sy'n cefnogi model ehangach, amlasiantaethol o gymorth iechyd meddwl.
Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr mewn byrddau iechyd i archwilio'r data sy'n ymwneud â CAMHS. Fel hyn gallwn gael gwell dealltwriaeth o sut y gall plant a phobl ifanc fynd i mewn i wasanaethau i gael yr help sydd ei angen arnynt a phan y mae ei angen arnynt. Mae hyn hefyd yn ein galluogi i ddeall y gwahanol fathau o staff a hyfforddiant sydd eu hangen i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg a'r lefel gywir iddynt wella. Er mwyn gwneud hyn rydym yn helpu i nodi'r mathau o ddisgyblaethau o wahanol staff fel y gallwn sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu.
Mewn ffordd dryloyw rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod darpariaeth gyfannol o CAMHS yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc gan gynnwys y bobl ifanc hynny sydd â bywydau anhrefnus heb fynediad i lety diogel. Gyda phartneriaid, gallwn ddarparu cymorth i ddatblygu'r ffrydiau gwaith cysylltiedig.
Mae hyn yr un fath ar gyfer pontio neu pan fydd plant yn symud o wasanaethau i bobl ifanc dan 18 oed i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion, lle nad yw eu hangen am gymorth yn dod i ben dim ond am eich bod wedi troi’n 18 oed.
Gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru rydym yn gweithio gyda nhw i helpu i ddatblygu, gwerthuso a gweithredu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles emosiynol - gan mai’r ysgol yw'r amgylchedd mwyaf hygyrch a chyson ym mywydau pobl ifanc.