Maen nhw’n gyfrwng pwysig ar gyfer gwireddu'r uchelgais a nodir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol ac yn disgrifio 'sut olwg sydd ar dda' ym mhob un o'u meysydd, yn ogystal â disgwyliadau ar gyfer cyflawni ar draws iechyd i'n poblogaeth.
Gan weithio rhwng darparu gwasanaethau gweithredol mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau a llunio polisi a strategaeth yn Llywodraeth Cymru, mae gan bob rhwydwaith arweinyddiaeth glinigol wrth ei wraidd. Maen nhw’n tynnu’n uniongyrchol ar arbenigedd clinigwyr sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen mewn gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd a thrydyddol.
Mae'r rhwydweithiau'n defnyddio ac yn cyfrannu data a thystiolaeth, yn ogystal ag ymgysylltu'n eang â'r trydydd sector, cynrychiolwyr cleifion a diwydiant.
Mae’r rhaglenni cenedlaethol a rwydweithiau gweithredu hefyd yn ddull o gefnogi gwelliant, newid (gan gynnwys arloesedd a gwerth) a chyflawni.
Mae eu gwaith yn cynnwys cytuno ar safonau a modelau gofal, cysondeb o ran sut y mesurir perfformiad a gweithgarwch, a llywio metrigau ansawdd a pherfformiad i awgrymu pa arferion gorau y dylid eu mabwysiadu’n genedlaethol.
Gallwch ddysgu am waith y rhwydweithiau, y rhaglenni a'r grwpiau gweithredu presennol isod. Mae’r swyddogaeth Gynllunio yn gweithio ar draws canghennau Llywodraeth Cymru a’r GIG o’r Weithrediaeth i drosi cyfarwyddiadau Gweinidogol a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni trwy Fframwaith Cynllunio’r GIG. Mae’r gwaith hwn yn cael ei atgyfnerthu gan rhwydweithiau clinigol, grwpiau gweithredu a rhaglenni.
Gallwch ddysgu am waith y rhwydweithiau, y rhaglenni a'r grwpiau gweithredu presennol isod.