Cleifion a'u teuluoedd
Yn anffodus, ni all y Rhwydwaith Canser roi cyngor ar unrhyw bryderon clinigol unigol ac nid oes ganddo fynediad at gofnodion meddygol cleifion. Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu dîm eich Bwrdd Iechyd. Os hoffech fynegi pryder neu gŵyn am eich gofal, cysylltwch â thîm Gweithio i Wella eich Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd lleol.
Yn ogystal, mae llinellau cymorth elusennau a allai ddarparu cefnogaeth tra byddwch yn aros: Llinell gymorth Cymorth Macmillan: 08088080000 Llinell gymorth Tenovus: 08088081010
Mae'r Rhwydwaith Canser yn gweithio i wella gwasanaethau ac mae'n awyddus i ddarganfod mwy am brofiadau cleifion y gorffennol er mwyn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau Canser yng Nghymru. Cysylltwch â ni os hoffech chi rannu eich profiad o ofal Canser y GIG yng Nghymru ar wcn.walescancernetwork@wales.nhs.uk.
Ymholiadau eraill
Cysylltwch â ni yn wcn.walescancernetwork@wales.nhs.uk os ydych chi'n glinigydd neu'n rhanddeiliad a bod angen gwybodaeth bellach arnoch chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein Hwb Clinigol ar-lein Rhwydwaith Canser.