Mae'r system Canisc bresennol yn gael ei defnyddio'n helaeth ledled Cymru gan yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, hosbisau a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â darparu gofal canser. Mae’r system yn gweithredu mewn tair prif ffordd; cofnod clinigol o ofal canser (gan gynnwys cofnod o ganlyniadau cyfarfodydd amlddisgyblaethol), System Gweinyddu Cleifion (PAS) ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, ac mae'n gweithredu fel offeryn ar gyfer darparu data ar weithgarwch a gwybodaeth fusnes cysylltiedig â chanser (Gofal Cleifion a Dderbynnir, Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid (SaFF) ac Adroddiadau Amseroedd Aros) ac adroddiadau ariannol. Yn bwysig, Canisc hefyd yw'r brif ffynhonnell ddata ar gyfer ymchwil a datblygu, setiau data archwilio clinigol cenedlaethol a datganiadau canser cenedlaethol (drwy Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU), a Cancer Research UK).
Mae Canisc yn cael ei diddymu’n raddol oherwydd oedran ei meddalwedd ac nid yw'n gallu bod yn hyblyg mwyach i ddiwallu anghenion y gwasanaeth ac felly cleifion.
Er bod Canisc yn caniatáu i amryw o sefydliadau gofnodi'r wybodaeth am ddiagnosis, triniaeth a gofal dilynol claf, dim ond tua 2,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol awdurdodedig sy'n gallu cael mynediad iddi. Mae'n rhaglen annibynnol a dim ond drwy Canisc y gellir gweld y wybodaeth am ofal clinigol ynddi. Mae cleifion yn derbyn gofal mewn llawer o leoliadau y tu allan i'r canolfannau canser ac, yn aml, nid yw'r wybodaeth glinigol am eu gofal canser ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n trin cleifion am broblemau eraill sy'n ymwneud ag iechyd mewn lleoliadau gofal eraill.
Mae angen dybryd am system fwy diogel, cynaliadwy a hygyrch sy'n darparu gwybodaeth am gleifion sydd â chanser ledled Cymru, i'r rhai sy'n gofalu amdanynt, pryd a ble mae ei hangen, ym mha leoliad gofal bynnag.
Yr Ateb Gwybodeg Canser newydd yw un o'r prif alluogwyr i sicrhau gwelliannau strategol mewn gwybodeg canser er mwyn hwyluso'r gwaith o ddatblygu a gweithredu safoni llwybrau clinigol a thrawsnewid gwasanaethau. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at leihau amrywiadau clinigol diangen a gwella canlyniadau.
Mae'r Rhaglen Gwybodeg Canser wedi'i sefydlu i ddisodli swyddogaethau Canisc ar draws yr holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru. Bydd nodweddion newydd yn cael eu datblygu mewn rhyngwynebau defnyddwyr e.e. WPAS a Phorth Clinigol Cymru (WCP) i gymryd lle swyddogaethau Canisc, i gefnogi pob cam o'r llwybr canser a datblygu cofnod unigol y claf. Bydd gwybodaeth glinigol sy'n ofynnol ar gyfer gofalu am gleifion canser ar gael i glinigwyr ym mha sefydliad gofal iechyd bynnag y maent yn darparu gofal.
Mae'r Rhaglen Gwybodeg Canser wedi newid ffocws ei hymdrechion yn ddiweddar ac wedi sefydlu dull gweithredu graddol, gyda'r cyfnod cyflymu cychwynnol yn blaenoriaethu deuddeg ffrwd waith. Y prif amcan yw disodli'r system Canisc yn gyflym, lliniaru risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau a darparu parhad busnes ar gyfer gofal cleifion.
Amcanion y cyfnod cyflymu (Medi 2021):
Ar ôl i'r cyfnod cyflymu cychwynnol gael ei gyflawni, bydd y ffocws wedyn ar amcanion pellach yr Ateb Gwybodeg Canser yn y camau ôl-gyflymu.
Amcanion ôl-gyflymu:
Mae gan bob ffrwd waith reolwyr prosiect ei hun i gydgysylltu'r gwaith cynllunio a'r amserlenni, a bydd yn cynnwys elfennau o gyfathrebu, hwyluso newid busnes a hyfforddiant / E-ddysgu. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol ar gyfer y ffrydiau gwaith a bydd gan bob un arweinyddiaeth glinigol a bydd yn ceisio mewnbwn gan arbenigwyr pwnc, ymgysylltiad clinigol Grwpiau Safle Canser (CSG) a gwybodegwyr iechyd. Y deuddeg ffrwd waith â blaenoriaeth yw:
* Lle mae angen swyddogaethau newydd mewn systemau gweinyddu cleifion, bydd ymgysylltu'n digwydd gyda sefydliadau nad ydynt yn defnyddio WPAS.