Sefydlwyd Fframwaith Canser Gofal Sylfaenol Macmillan yn 2015 i fynd i'r afael â natur newidiol canser a thriniaeth canser. Mae mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser a bydd angen cymorth parhaus ar lawer ohonynt ym maes gofal sylfaenol.
Rydym yn cefnogi rôl gynyddol meddygon teulu, nyrsys a mathau eraill o ofal cymunedol wrth ddarparu gwasanaethau gofal canser i'w cleifion.
Rydym yn gwneud hyn drwy:
Rydym yn rhaglen bartneriaeth strategol rhwng pob bwrdd iechyd yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Rhwydwaith Canser Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymorth Canser Macmillan.
Mae ein gwaith yn gysylltiedig â llawer o rwydweithiau a grwpiau gan gynnwys Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu a Chynghrair Canser Cymru er mwyn gwella gofal canser yng Nghymru