Bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i nyrsys practis, meddygon teulu a chlinigwyr gofal sylfaenol eraill sydd am ddechrau cynnal Adolygiadau Gofal Canser yn eu practisau meddygon teulu.
Mae Adolygiad Gofal Canser yn sgwrs holistaidd rhwng claf a'i nyrs practis neu feddyg teulu am ei driniaeth/gofal canser. Gall Adolygiad Gofal Canser helpu cleifion i:
Mae llawer o bobl sy'n byw gyda chanser yn disgrifio'r amser pan fyddant yn gadael y lleoliad acíwt ac yn dychwelyd i'r gymuned fel teimlo eu bod wedi syrthio oddi ar ymyl clogwyn ( Arolwg Profiad Cleifion Macmillan 2016 ).
Gall eich cefnogaeth fel gweithiwr gofal sylfaenol proffesiynol fod yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn.
Darllenwch 'Canllaw i Nyrsys Practis ar Adolygiadau Gofal Canser' i ddechrau arni. Fe'i bwriedir ar gyfer nyrsys practis, ond bydd yn ddefnyddiol i glinigwyr eraill hefyd.
Cafodd Eleri ddiagnosis o ganser y fron ac mae’n siarad yma am sut y gallai adolygiad gofal canser fod wedi ei helpu.
Mae'r Nyrs Practis Juliet Norwood yn rhannu ei hawgrymiadau ar gyfer cynnal Adolygiadau Gofal Canser.
Dyma ddau offeryn gwahanol y gallwch eu defnyddio wrth gynnal Adolygiad Gofal Canser.
1)
Mae'r Asesiad o Anghenion Holistaidd (HNA) a'r cynllun gofal cysylltiedig yn ffordd syml o ddarganfod beth sy'n wirioneddol bwysig i'r unigolyn â chanser.
Mae HNA yn sicrhau bod anghenion corfforol, ymarferol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol pobl yn cael eu diwallu mewn ffordd amserol a phriodol, a bod adnoddau'n cael eu darparu ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.
Holiadur syml yw HNA sy'n cael ei gwblhau gan unigolyn sy'n byw gyda chanser. Mae'n galluogi'r unigolyn i nodi'r materion sy’n bwysig iddo ar y pryd er mwyn llywio datblygiad cynllun gofal a chymorth gyda'i nyrs neu ei weithiwr allweddol. Gellir cwblhau'r holiadur ar bapur, neu’n electronig (eHNA).
Gwyliwch y fideo fer sy'n dangos nyrs practis yn cynnal Adolygiad Gofal Canser gyda chlaf gan ddefnyddio'r offeryn HNA .
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio'r offeryn HNA a chymorth i fynd i'r afael â phryderon a nodwyd yn y rhestr wirio o bryderon cleifion.
Lawrlwythwch yr HNA (rhestr wirio pryderon) a'r cynllun gofal cysylltiedig.
Mae Macmillan wedi datblygu templedi Adolygiadau Gofal Canser Safonedig Cenedlaethol ac maen nhw ar gael ar ffurf EMIS Web, TPP SystmOne ac INPS Vision. Nid yw'r cynlluniau gofal hyn yn cael eu harwain gan gleifion bob amser, ond bydd y wybodaeth yn cynnwys cod darllen.
2)
Mae’r Templedi Safonedig Cenedlaethol ar gyfer Adolygiad Ofal Canser wedi cael ei ddatblygu gan Macmillan ac maent ar gael yn EMIS Web, TPP SystmOne ac INPS Vision. Nid yw'r cynlluniau gofal hyn bob amser yn cael eu harwain gan gleifion, ond bydd y wybodaeth yn “read-coded."
Mae nifer o adnoddau ar gael i'ch helpu i gynnal Adolygiad Gofal Canser.
Gallwch addasu'r llythyr templed hwn i'w anfon at eich cleifion er mwyn eu gwahodd i fynychu Adolygiad Gofal Canser.
Yn sgil datblygu triniaethau canser newydd mae'n anodd iawn i glinigwyr gofal sylfaenol wybod pa gamau i'w cymryd pan fydd cleifion yn nodi bod ganddynt symptomau newydd. Mae angen rhoi rhai o'r camau hyn ar waith ar unwaith.
Mae'n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â nhw. Mae Cymdeithas Nyrsio Macmillan ac Oncoleg y DU wedi datblygu'r Offeryn Asesu Risg Gwenwyndra Triniaeth Oncoleg / Haematoleg i'ch cynorthwyo.
I gael rhagor o syniadau, ewch i 10 Awgrym Da Gofal Sylfaenol Macmillan - Cynnal Adolygiad Gofal Canser effeithiol.
Fel gweithiwr gofal sylfaenol proffesiynol, fe allwch gofrestru ar gyfer tair gwefan ddefnyddiol gan Macmillan:
Mae gwybodaeth am gymorth cenedlaethol i gleifion ar gael ar ein hwb cleifion.