Mae'r Grwpiau Safleoedd Canser (CSGs) wedi'u sefydlu fel un strwythur clinigol sy'n darparu cyngor ac arbenigedd i Rwydwaith Canser Cymru a'r Grŵp Gweithredu ar Ganser.
Mae'r CSGs yn cyfrannu at waith datblygu polisi ac yn helpu i gyflwyno 'Gyda'n Gilydd yn erbyn Canser; Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser 2016-2020’. Hefyd, maent yn rhoi cyfle i dimau clinigol ymdrin ag unrhyw heriau sy'n benodol i safleoedd a nodwyd ar lefel genedlaethol.
Mae'r CSGs yn ffurfio strwythur clinigol Rhwydwaith Canser Cymru. Mae ganddynt aelodau amrywiol o'r timau amlddisgyblaethol cysylltiedig ym meysydd gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol sy'n gofalu am gleifion mewn safleoedd canser unigol ledled Cymru.
Mae pob CSG yn gweithredu fel adnodd ar gyfer ymgynghori a chyngor ar ganllawiau clinigol ac yn cefnogi'r rhaglen waith genedlaethol, gyda'r nod o wella profiad cleifion drwy gydweithredu, rhannu arferion gorau ac amlygu meysydd gwella gwasanaethau.
Mae'r tudalennau nesaf yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys canllawiau, llwybrau a thimau amlddisgyblaethol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni yn WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk