Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar fathau o ganser ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae gwybodaeth ar gyfer cleifion ar gael ar ein hwb cleifion.
Mae'r Ganolfan Triniaeth Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc (TYA PTC) ar gyfer canolbarth a de Cymru wedi'i lleoli yn y Gyfarwyddiaeth Haematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae'n cael ei harwain gan glinigydd arweiniol TYA ac uwch nyrs Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau. Mae'r TYA PTC yn cynnal Cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol Pobl Ifanc yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc (TYA MDT), ac mae'n cynorthwyo'r broses o drosglwyddo pobl ifanc â chanser i wasanaethau oedolion.
Mae TYA PTC yn cynnal uned bwrpasol addas i'r oedran ar gyfer cleifion 14 i 24 oed. Mae gan y cyfleuster pwrpasol hwn wyth gwely cleifion mewnol, uned triniaeth ddydd a gofal dydd, a 'pharth cymdeithasol' unigryw. Mae gofal arbenigol addas i'r oedran yn cael ei ddarparu gan staff medrus arbenigol, gan gynnwys cydgysylltydd gweithgareddau a gweithwyr cymdeithasol arbenigol sy'n cynnig cymorth seicogymdeithasol a chymorth gan gymheiriaid, yn ogystal â gofal meddygol.
Dylai cleifion 16 a 17 oed sydd â diagnosis o ganser gael eu hatgyfeirio i’r PTC i dderbyn triniaeth yn unol â Safonau Canser Pobl Ifanc yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc. Dylai cleifion rhwng 18 a 24 oed gael y dewis o gael triniaeth yn y cyfleuster hwn neu gan wasanaethau lleol. Os yw cleifion yn dewis derbyn eu triniaeth yn nes at gartref, bydd y tîm TYA PTC yn parhau i gynnig cymorth gan gymheiriaid a seicogymdeithasol i bob person ifanc, waeth beth yw lleoliad y driniaeth.
Mae angen atgyfeirio pob person ifanc yn ei arddegau neu oedolyn ifanc sydd wedi cael diagnosis o ganser at y TYA MDT, yn unol â Safonau Canser Pobl Ifanc yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am TYA CSG, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk