Grŵp heterogenaidd o diwmorau sy'n tyfu'n araf yn gyffredinol yw tiwmorau niwroendocrin (NETs), sy'n deillio'n bennaf o'r llwybr gastroenteropancreatig (GEP), a mannau eraill llai cyffredin.
Dylai cleifion sydd â NETs yn dilyn diagnosis yn Ne Cymru gael eu trafod yng nghyfarfod NET Tîm Amlddisgyblaethol De Cymru yng Nghaerdydd, ond oherwydd natur gymhleth y canser hwn, mae'r tîm, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn croesawu cyswllt cyn unrhyw drafodaeth i ddarparu arweiniad amserol.
Dylai'r broses o reoli cleifion â NETs gydymffurfio â chanllawiau Cymdeithas NET Ewrop (ENETS).
Wrth i'r gwasanaeth NET ddatblygu, bydd y tîm NET yng Nghaerdydd yn ymdrin ag achosion cymhleth mewn clinig er mwyn darparu cynlluniau triniaeth cynhwysfawr a chymorth i gleifion. Bydd cynllun ar gyfer triniaeth ddilynol yn lleol yn cael ei ddarparu ar gyfer achosion syml.
Gall adolygiad Histolegol fod yn hollbwysig gan y bydd sawl biopsi neu sbesimen llawfeddygol yn adrodd ar ganserau sydd wedi'u gwahaniaethu'n wael ac sydd â 'nodweddion niwroendocrin', neu 'garsinomâu niwroendocrin' sy'n ymddwyn yn ymosodol ac yn cael eu rheoli yn yr un modd ag adenocarsinomâu yn safle'r corff.
Mae'r rhain yn llai cyffredin na NETs wedi'u gwahaniaethu'n dda sy'n tyfu'n araf (gyda Ki-67 isel), a dylent barhau i gael eu rheoli gan y tîm oncoleg ar gyfer y safle anatomegol hwnnw, e.e. yr ysgyfaint, gynaecolegol, neu'r pen a'r gwddf. Mae croeso i chi gysylltu â'r tîm i gael eglurhad.
Dylai cleifion o ogledd Cymru gael eu hatgyfeirio i Ganolfan NET Lerpwl sy'n cael ei chadeirio ar hyn o bryd gan yr Athro Mark Pritchard, Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Ysbytai Brenhinol Lerpwl a Broadgreen.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am CSG Niwroendocrin, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk
Mae canllawiau'r DU a Rhyngwladol yn cynnig arweiniad arbenigol cynhwysfawr ar gyfer pob NET.
Dilynwch y dolenni isod.
Cynhelir cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol niwroendocrin De Cymru ar yr ail a phedwerydd dydd Mawrth bob mis am 1pm.
Defnyddiwch https://forms.office.com/e/WPdcUMza4g i wneud atgyfeiriad i'r Tîm Amlddisgyblaethol.
DYNODIAD |
ENW |
Arweinydd y Tîm Amlddisgyblaethol |
Dr Mohid S Khan |
Gastroenterolegydd |
Dr Mohid S Khan |
Oncolegydd Clinigol (Felindre/ De Ddwyrain) |
Dr Carys Morgan |
Oncolegydd Clinigol (De Orllewin) |
Dr Sarah Gwynne |
Endocrinolegydd |
Dr Aled Rees |
Endocrinolegydd |
Dr Peter Taylor |
Patholegydd |
Dr Adam Christian |
Patholegydd |
Dr Meleri Morgan |
Radiolegydd â Diddordeb mewn Delweddu Meddygaeth Niwclear |
Dr John Rees |
Radiolegydd â Diddordeb mewn Delweddu Meddygaeth Niwclear |
Dr Patrick Fielding |
Radiolegydd â Diddordeb mewn GI/HPB |
Dr Rwth Ellis-Owen |
Radiolegydd â Diddordeb mewn GI/HPB |
Dr Dipanjali Mondal |
Llawfeddyg Pancreaticobiliary |
Yr Athro Bilal Al-Sharieh |
Llawfeddyg Pancreaticobiliary |
Mr Guy Shingler |
Llawfeddyg Hepatobiliary |
Mr Nagappan Kumar |
Llawfeddyg Hepatobiliary |
Ms Trish Duncan |
Llawfeddyg Endocrin |
Mr David Scott-Coombes |
Llawfeddyg Endocrin |
Mr Michael Stechman |
Nyrs Arbenigol |
Cath Powell |
Nyrs Arbenigol |
Rebecca Hopps |