Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am CSG Gastroberfeddol Uwch, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk
Datblygwyd y Llwybr Cenedlaethol Gorau ar gyfer Canser y Pancreas ar y cyd â'r CSG Gastroberfeddol Uwch i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Llwybr Canser Sengl (SCP) yng Nghymru.
Cynhelir cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol HPB bob dydd Mawrth am 8am.
Cyn atgyfeirio claf i Dîm Amlddisgyblaethol Canser y Pancreas darllenwch y llythyr hwn gan y tîm .
O ystyried natur ranbarthol y gwasanaeth ac er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion unigol, bydd angen eich cydweithrediad ar gyfer y broses atgyfeirio ac wrth gyflwyno gwybodaeth i'ch adran gwasanaethau canser leol er mwyn cofnodi'r wybodaeth yn Canisc.
Ffurflen atgyfeirio Tîm Amlddisgyblaethol HPB.
Enw |
Rôl |
Dr Sarah Gwynne |
Oncolegydd Clinigol, Clinigydd Arweiniol a Chadeirydd y Tîm Amlddisgyblaethol |
Yr Athro Bilal Al Sarireh | Llawfeddyg Pancreatig Ymgynghorol, Arweinydd y Tîm Amlddisgyblaethol Hepato-Pancreato-Biliary |
Mr Amir Kambal | Llawfeddyg Pancreatig Ymgynghorol |
Mr Guy Shingler | Llawfeddyg Pancreatig Ymgynghorol |
Dr Emma Christopher | Oncolegydd Ymgynghorol |
Dr Daniel Housa | Histopatholegydd Ymgynghorol |
Dr Danny Parker | Histopatholegydd Ymgynghorol |
Yr Athro Paul Griffiths | Histopatholegydd Ymgynghorol |
Dr Tawfik Elazzabi | Histopatholegydd Ymgynghorol |
Dr Peter Chowdhury | Radiolegydd Ymgynghorol |
Dr Derrian Markham | Radiolegydd Ymgynghorol |
Dr Tudor Young | Radiolegydd Ymgynghorol |
Dr Chinlye Ch'ng | Gastroenterolegydd Ymgynghorol |
Dr Mesbah Rahman | Gastroenterolegydd Ymgynghorol |
Dr Umakant Dave | Gastroenterolegydd Ymgynghorol |
Dr Mike Gough | Anaesthetydd Ymgynghorol |
Dr Stuart Jenkins | Anaesthetydd Ymgynghorol |
Dr David Watkins | Anaesthetydd Ymgynghorol |
Kathy Dykes | Nyrs Arbenigol Pancreatico-biliary |
Kellie Williams | Nyrs Arbenigol Pancreatico-biliary |
Julie Johns |
Nyrs Oncoleg |
Lois Smith | Cydgysylltydd y Tîm Amlddisgyblaethol |
Datblygwyd manyleb gwasanaeth model llawdriniaeth Hepato-Pancreatig-Bustlaidd gan grŵp gorchwyl a gorffen, sy’n cynnwys cynrychiolaeth glinigol o'r canolfannau llawfeddygol ledled Cymru, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau hyn.
Nod y fanyleb gwasanaeth yw diffinio'r gofynion hanfodol a safon y gofal y mae'n ofynnol i wasanaethau eu bodloni er mwyn darparu gwasanaethau llawdriniaethau HPB i bobl sy'n byw yng Nghymru.
Roedd y gwaith datblygu yn cynnwys cyfnod ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol. Cafodd y fanyleb ei chymeradwyo ym mis Mai 2021 gan y Grŵp Gweithredol Cydweithredol, ac fe’i cymeradwyodd i gael ei mabwysiadu'n ffurfiol gan fyrddau iechyd unigol Cymru.
Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhanddeiliaid clinigol a rhanddeiliaid eraill am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r fanyleb gwasanaeth hon.
Mae elfen o'r gwasanaeth llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd yng Nghymru, sef llawdriniaethau canser hepatobustlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cael ei chomisiynu fel gwasanaeth arbenigol gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).
Diweddarwyd y fanyleb ar gyfer llawdriniaethau canser hepatobustlaidd yn ddiweddar mewn proses ar y cyd ochr yn ochr â datblygu manyleb gwasanaeth model llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd ehangach.
Mae manyleb llawdriniaethau canser hepatobustlaidd ar gael ar wefan WHSSC.