Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am CSG Gastroberfeddol Uwch, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk
Datblygwyd y Llwybr Cenedlaethol Gorau ar gyfer Canser Hepatogellol ar y cyd â'r CSG GI i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Llwybr Canser Sengl (SCP) yng Nghymru.
Trafodir pob claf sydd â charsinoma hepatogellol (HCC) mewn cyfarfod tîm amlddisgyblaethol penodedig. Cynhelir y cyfarfodydd bob dydd Mawrth am 8:30am. Mae angen defnyddio'r profforma HCC MDT isod i atgyfeirio unrhyw gleifion y mae angen eu trafod yn y cyfarfod hwn.
Mae'r holl driniaethau ar gyfer HCC ac eithrio trawsblaniad afu ar gael drwy'r Tîm Amlddisgyblaethol hwn. Mae hyn yn cynnwys llawdriniaeth, TACE (Emboleiddio Chemo Traws Rhydwelïol), abladiad, cemotherapi, SBRT (Radiotherapi Corff Stereotactig) a SIRT (Radiotherapi Mewnol Dethol).
Ffurflen atgyfeirio Tîm Amlddisgyblaethol HCC
Mae'r holl gleifion sydd â metastasisau'r afu, colangiocarsinoma (CC) a chanser coden y bustl (CBM) yn cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Tîm Amlddisgyblaethol bob dydd Mawrth am 9am. Mae angen defnyddio'r profforma isod i atgyfeirio unrhyw gleifion y mae angen eu trafod yn y cyfarfod hwn
Uned Afu Caerdydd (CLU) yw'r gwasanaeth afu dynodedig sy'n darparu gofal i'r holl gleifion sydd angen triniaeth am broblemau llawfeddygol yn ymwneud â'r afu yn Ne Cymru. Mae'n gwasanaethu poblogaeth o 2.2 miliwn o bobl.
Llawfeddygaeth HPB
Mr Nagappan Kumar | Llawfeddyg Ymgynghorydd Arweiniol HPB |
Mr David O'Reilly | Llawfeddyg Ymgynghorydd HPB |
Miss Trish Duncan | Llawfeddyg Ymgynghorydd HPB |
Mrs Sian Thomas | Nyrs Glinigol Arbenigol |
Mrs Sian Weaver | Ysgrifenyddes |
Ms Gina Brajer | Ysgrifenyddes |
Mae'r uned afu yn gweithio'n agos gyda'r arbenigeddau canlynol sy'n mynychu cyfarfodydd rhanbarthol Timau Amlddisgyblaethol yr Afu.
Arbenigedd |
Enw |
Rôl |
Hepatoleg |
Dr Brijesh Srivastava |
Hepatolegydd Ymgynghorol |
Dr Lawrence Sunderraj |
Ymgynghorydd mewn Gastroenteroleg a Hepatoleg |
|
Yr Athro Andrew Godkin |
Hepatolegydd Ymgynghorol |
|
Radioleg Ymyriadol yr Afu |
Dr Andrew Gordon |
Radiolegydd Ymgynghorol |
Dr Andrew Wood |
Radiolegydd Ymgynghorol |
|
Dr Rhodri Thomas |
Radiolegydd Ymgynghorol |
|
Radioleg yr Afu |
Dr Craig Parry |
Radiolegydd Ymgynghorol |
Dr Rwth Ellis Owen |
Radiolegydd Ymgynghorol |
|
Dr Dipanjali Mondal |
Radiolegydd Ymgynghorol |
|
Dr Chris Chick |
Radiolegydd Ymgynghorol (Ysbyty Brenhinol Gwent) |
|
Uwchsain Endosgopig |
Dr Ashley Roberts |
Radiolegydd Ymgynghorol |
Patholeg yr Afu |
Dr Adam Christian |
Radiolegydd Ymgynghorol |
Oncoleg yr Afu (ar safle ysbyty Felindre) |
Dr Seema Arif |
Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol |
Dr Hilary Williams |
Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol |
|
Dr Kein Yim |
Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol |
|
Dr Sonali Dasgupta |
Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol |
|
Yr Athro Richard Adams |
Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol |
|
Dr Rob Jones |
Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol |
Datblygwyd manyleb gwasanaeth model llawdriniaeth Hepato-Pancreatig-Bustlaidd gan grŵp gorchwyl a gorffen, sy’n cynnwys cynrychiolaeth glinigol o'r canolfannau llawfeddygol ledled Cymru, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau hyn.
Nod y fanyleb gwasanaeth yw diffinio'r gofynion hanfodol a safon y gofal y mae'n ofynnol i wasanaethau eu bodloni er mwyn darparu gwasanaethau llawdriniaethau HPB i bobl sy'n byw yng Nghymru.
Roedd y gwaith datblygu yn cynnwys cyfnod ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol. Cafodd y fanyleb ei chymeradwyo ym mis Mai 2021 gan y Grŵp Gweithredol Cydweithredol, ac fe’i cymeradwyodd i gael ei mabwysiadu'n ffurfiol gan fyrddau iechyd unigol Cymru.
Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhanddeiliaid clinigol a rhanddeiliaid eraill am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r fanyleb gwasanaeth hon.
Mae elfen o'r gwasanaeth llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd yng Nghymru, sef llawdriniaethau canser hepatobustlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cael ei chomisiynu fel gwasanaeth arbenigol gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).
Diweddarwyd y fanyleb ar gyfer llawdriniaethau canser hepatobustlaidd yn ddiweddar mewn proses ar y cyd ochr yn ochr â datblygu manyleb gwasanaeth model llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd ehangach.
Mae manyleb llawdriniaethau canser hepatobustlaidd ar gael ar wefan WHSSC.