Mae gwybodaeth ar gyfer cleifion ar gael ar ein hwb cleifion.
Grŵp prin ac amrywiol o ganserau yw Sarcomas a chredir bod ganddynt darddiad embryolegol cyffredin. Maent yn deillio o gelloedd sy'n ffurfio'r strwythur meinweoedd cysylltiol, gan gynnwys esgyrn, cartilag, cyhyrau, pibellau gwaed, nerfau a braster (pibellau gwaed, byrsa, ffasgia, gewynnau, cyhyrau, nerfau ymylol, nerfau a ganglia sympathetig a pharasympathetig, synofia, tendon ac ati), sy'n digwydd bron yn unrhyw le yn y corff. Yn fras, gellir rhannu sarcomas yn rhai esgyrn a meinwe meddal.
Dim ond sarcomas meinwe meddal sy'n cael eu rheoli gan Rwydwaith Canser Cymru, ac mae gwybodaeth ar y wefan hon yn berthnasol i sarcoma meinwe meddal yn unig.
Dylid atgyfeirio achosion o sarcomas esgyrn yn uniongyrchol i'r uned sarcoma yn Ysbyty Orthopedig Brenhinol Birmingham.
Gweler y Canllawiau Clinigol am wybodaeth benodol, e.e. graddfeydd a bongorffarwynebol, retropertioniwm, ymysgaroedd, pen a gwddf, ffactorau risg a chanllawiau ar gyfer atgyfeiriadau brys.
Welsh Health Specialised Services Committe (WHSSC) service specification
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddatblygu'r llwybr cenedlaethol gorau ar gyfer Sarcoma.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gymryd rhan yn y gwaith, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk
Yn aml, mae sarcoma yn edrych fel lwmp sy'n gallu bod yn boenus neu'n ddi-boen.
Mae arwyddion baner goch ar gyfer sarcomata yn cynnwys:
Mae pob claf yn cael ei atgyfeirio drwy ein system e-bost atgyfeirio electronig.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol bob dydd Mercher, a bydd atgyfeiriadau a gyflwynir cyn hanner dydd bob dydd Llun yn cael eu trafod yn ystod yr un wythnos.
Ni ellir derbyn atgyfeiriadau os nad ydynt wedi'u hanfon o gyfrif e-bost y GIG. Cwblhewch yr holl feysydd perthnasol.
Ffurflen atgyfeirio Sarcoma De Cymru
Ffurflen atgyfeirio Sarcoma Gogledd Cymru
Uned Sarcoma Abdomenol ac Ôl-beritoneol Canolbarth Lloegr
Ysbyty Orthopedig Brenhinol, Birmingham
Aelod Craidd y Tîm Amlddisgyblaethol |
Aelod a Enwir |
Lleoliad |
Arweinydd Clinigol y Tîm Amlddisgyblaethol |
Mr Thomas Bragg
|
Ysbyty Treforys
|
Cydgysylltydd |
Ms Victoria Shaw
|
Ysbyty Singleton
|
Llawfeddygon |
Mr Thomas Bragg Mr James Warbrick-Smith (o fis Chwefror 2021)
|
Ysbyty Treforys Ysbyty Treforys
|
Patholegwyr |
Dr Maurizio Brotto Dr Stefan Dojcinov
|
Ysbyty Singleton Ysbyty Treforys
|
Radiolegwyr |
Dr Suresh Dalavaye Dr Tishi Ninan Dr Aamer Iqbal Dr Rafal Colta Dr Moni Sah Dr Huw Edwards
|
Ysbyty Treforys Ysbyty Treforys Ysbyty Treforys Ysbyty Treforys Ysbyty Treforys Ysbyty Treforys |
Oncolegwyr |
Dr Kath Rowley Dr Owen Tilsley Swydd wag |
Ysbyty Singleton Canolfan Ganser Felindre Ysbyty Singleton |
Nyrsys Arbenigol |
Ms Jo Gronow Ms Hannah Morgan Swydd wag (wedi'i llenwi) Ms Jo Vass
|
Canolfan Ganser Felindre Ysbyty Treforys Ysbyty Singleton Ysbyty Treforys |
Gweithiwr Cymorth Sarcoma |
Ms Lucy Whiddett Ms Lara Salmon
|
Ysbyty Treforys Canolfan Ganser Felindre
|