Neidio i'r prif gynnwy

Radiotherapi'r

Tîm Radiotherapi’r Rhwydwaith Canser

Arweinydd Radiotherapi'r Rhwydwaith Canser: Dr Ryan Lewis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Canser: Dr Thomas Rackley, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Yn y 1990au, sefydlwyd yr Is-bwyllgor Oncoleg Glinigol (COSC) fel corff cynghori statudol sy’n adrodd i Bwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru (WSAC) ac i Lywodraeth Cymru. Cylch gwaith COSC yw helpu Llywodraeth Cymru i asesu, dehongli a deall gwahanol wybodaeth a chyngor gwyddonol a chlinigol, a llunio barn am ei pherthnasedd, ei photensial a’i chymhwysiad ar gyfer radiotherapi. Mae COSC yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid, megis arweinyddiaeth glinigol o bob un o’r Gwasanaethau Radiotherapi, Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC), Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o Wasanaethau Radiotherapi ledled Cymru; maent yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn.

Mae COSC wedi gwneud gwaith arolygu gwasanaeth a gwella ansawdd drwy gydol ei hanes ond nid oes ganddo fandad i ymgymryd yn weithredol â’r gwaith o wella a datblygu gwasanaethau cenedlaethol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, creodd y Rhwydwaith Canser ffrwd waith radiotherapi yn 2022, sy'n rhan o Raglen Triniaeth Canser Cymru y Rhwydwaith Canser. Nod y ffrwd waith hon yw hyrwyddo a chefnogi cydweithio a sicrhau tegwch o ran mynediad a gofal i gleifion sy’n cael radiotherapi ledled Cymru. Ers sefydlu'r ffrwd waith radiotherapi o fewn y Rhwydwaith Canser, mae amrywiaeth o grwpiau cyflawni wedi'u sefydlu i yrru prosiectau cenedlaethol ymlaen. Mae'r grwpiau hyn yn adrodd drwy strwythur llywodraethu'r Rhwydwaith Canser, ond hefyd yn cysylltu â COSC am adborth, arweiniad a chymorth.

Er bod gan COSC a ffrwd waith Radiotherapi Rhaglen Trin Canser y Rhwydwaith Canser strwythurau adrodd gwahanol, mae'r ddau wedi'u halinio. Ar draws y ddau strwythur hyn, mae amrywiaeth o randdeiliaid yn cymryd rhan, gan gynnwys JCC, WSAC, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Canolfannau Radiotherapi, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Prifysgol, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n ymwneud â darparu Gwasanaethau Radiotherapi. Lle trafodir y ddau strwythur ar y wefan hon, cyfeirir atynt fel ‘cydweithrediad radiotherapi Cymru’.

Mae’r tair Canolfan Ganser yng Nghymru sy’n darparu radiotherapi wedi’u lleoli yng:

1. Nghanolfan Triniaeth Gogledd Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)

2. Nghanolfan Ganser De Orllewin Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)

3. Nghanolfan Ganser Felindre (Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre)

Am ragor o wybodaeth am raglen gydweithredol radiotherapi Cymru, cysylltwch â WCN.WalesCancerNetwork@wales.nhs.uk.