Nod cynnwys y dudalen hon yw darparu gwybodaeth ac arweiniad ar SACT i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae gwybodaeth i gleifion ar gael YMA.
Grŵp Clinigol Therapïau Gwrth-ganser Systemig (SACT)
Arweinydd Clinigol SACT: Dr Catherine Bale (BIP Betsi Cadwaladr)
Arweinydd Nyrs SACT: Dr Rosie Roberts (Ymddiriedolaeth GIG Felindre)
Arweinwyr Fferylliaeth SACT: Diana Matthews (Ymddiriedolaeth GIG Felindre), Tracy Parry (BIP Betsi Cadwaladr) a Gail Povey (BIP Bae Abertawe)
Mae Grŵp SACT Cymru Gyfan yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn a’i nod yw darparu arweiniad strategol ar gyfer blaenoriaethau SACT cenedlaethol, gan alluogi dull cydgysylltiedig ar gyfer datblygiadau megis e-ragnodi, setiau data SACT, a chydlynu a monitro sganio’r gorwel ar gyfer cyffuriau canser, gan sicrhau hygyrchedd "unwaith i Gymru". Mae’r grŵp hefyd yn cadarnhau canllawiau SACT Cymru Gyfan ac yn hwyluso cynrychiolaeth ar grwpiau DU gyfan fel:
I gael rhagor o wybodaeth am Grŵp SACT Cymru Gyfan, cysylltwch â WCN.WalesCancerNetwork@wales.nhs.uk
Rhestr Ddosbarthu Grŵp SACT
Dilynwch y ddolen isod i'r Ffurflen Rhestr Ddosbarthu. Dylai gymryd llai na munud i chi ei chwblhau. Drwy lenwi'r ffurflen hon byddwch yn cael eich rhoi ar gyfeiriadur staff SACT Rhwydwaith Canser Cymru, a byddwn yn cysylltu â chi fel arfer drwy e-bost ar bynciau a allai fod o ddiddordeb i chi. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel gan Rwydwaith Canser Cymru ac ni fydd yn cael ei rhannu na’i dosbarthu. Bydd yr wybodaeth a gedwir yn cael ei defnyddio gan staff Rhwydwaith Canser Cymru yn unig.
Cliciwch yma am y Rhestr Ddosbarthu