Ein pwrpas yw ysgogi gweithredu gofynion polisi allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu Datganiadau Ansawdd ar gyfer Cyflyrau'r Galon, Strôc a Chlefydau Fasgwlaidd, gan fynd i'r afael ag unrhyw amrywiad diangen o ofal mewn gwasanaethau clinigol.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar ryngwyneb gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol i ddarparu gwell gofal a chanlyniadau i bobl o bob oed sydd mewn perygl o gael neu yr effeithir arnynt gan gyflyrau cardiofasgwlaidd.
Ein rhaglenni cenedlaethol a'n rhwydweithiau gweithredu yw ein mecanwaith i gefnogi gwelliant, newid (gan gynnwys arloesedd a gwerth) a darparu.