Yn ddiweddar, mae Achub Bywyd Cymru wedi ariannu a gosod Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus (PAD) newydd ar Draeth Bae Langland yn lle’r hen offer. Dylai hyn helpu trigolion ac ymwelwyr â'r ardal i deimlo'n fwy diogel os bydd rhywun yn y gymuned yn cael ataliad y galon heb rybudd.
Mae gosod y diffibriliwr a’r cabinet achub bywyd hwn yn dod yn sgil cydweithio llwyddiannus rhwng Marc Gower o Achub Bywyd Cymru, Peter Beynon o Gyngor Dinas Abertawe, Tîm Dadebru Bwrdd Iechyd Prifysgol GIG Bae Abertawe a Simon Tucker o Heartbeat Trust UK.
Bydd dros 6,000 o bobl yn dioddef ataliad y galon yn y gymuned yng Nghymru bob blwyddyn a bydd llai na 5% ohonynt yn ei oroesi. Dim ond trwy roi CPR a defnyddio diffibriliwr o fewn y tri i bum munud cyntaf y gwymp y gellir dylanwadu ar y gyfradd goroesi.
Er mwyn helpu i wneud y gwahaniaeth pan fo byw neu farw yn y fantol mae'n bwysig bod y rhai sy'n derbyn galwadau 999 yn gwybod am leoliad pob diffibriliwr yng Nghymru ac yn gallu nodi a yw ar gael ac yn barod i’w ddefnyddio mewn argyfwng. Bydd hyn ond yn bosib os yw pob diffibriliwr yn cael ei reoli a'i gofrestru gan Warcheidwad ar The Circuit sef Y Rhwydwaith Diffibriliwr Cenedlaethol.
Mae’r broses gofrestru hon am ddim a gall pob Gwarcheidwad yng Nghymru gael ei gefnogi gan dîm Cydlynwyr Cymunedol Achub Bywyd Cymru. Mae'n ffodus iawn bod Rachel Owen, sy'n breswylydd lleol, bellach yn Warcheidwad ar ddiffibrilwr Traeth Bae Langland.
Dywedodd Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru: "Rwyf wrth fy modd bod cymuned Traeth Bae Langland bellach yn meddu ar ddiffibriliwr a chabinet achub bywyd newydd a roddwyd gan Achub Bywyd Cymru.
“Bu hwn yn gyfle gwych i ni gyflwyno Marc Gower, Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru yn ne-orllewin Cymru, i’r gymuned. Gwn fod Marc wedi gweithio’n ddiflino gyda’r holl sefydliadau ac unigolion dan sylw i sicrhau’r Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus hwn ac i reoli proses gofrestru The Circuit er budd y gymuned gyfan.”
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros fuddsoddi, adfywio, twristiaeth digwyddiadau: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi gweithio gydag Achub Bywyd Cymru ac eraill er mwyn gosod yr offer achub bywyd dan sylw ar un o draethau gorau’r ardal.
“Mae miloedd lawer o bobl yn mwynhau Bae Langland bob blwyddyn – mae’n galonogol iddynt wybod bod y diffibriliwr hwn bellach yn ei le.”
Dywedodd Rachel Owen, y Gwarcheidwad: “Rwy'n hapus i chwarae rhan fach yn y gwaith o gynnal a chadw’r diffibriliwr hwn gan sicrhau y bydd yn gweithio’n iawn, pe bai angen ei ddefnyddio.”
Dywedodd Simon Tucker, Ymddiriedolwr Heartbeat Trust UK: “Mae Bae Langland yn draeth poblogaidd iawn yn Abertawe, ac roedd yn hollbwysig i ni gael diffibriliwr newydd yn lle'r hen offer. Erbyn hyn, bydd gan bawb sy'n mynd i'r traeth a'r trigolion lleol fynediad at ddiffibriliwr os bydd ei angen arnynt. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at helpu i dyfu a chynnal y rhwydwaith o ddiffibrilwyr ar draws y ddinas.”
Dywedodd Lisa Fabb o Dîm Dadebru Bwrdd Iechyd Prifysgol GIG Bae Abertawe: “Mae’r Gwasanaeth Dadebru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn awyddus i weld diffibrilwyr awtomataidd ar gael i gynifer o bobl â phosibl. Mae hyn yn newyddion gwych, yn enwedig mewn ardal brysur iawn. Rydym yn cael llawer o gwestiynau am ddiffibrilwyr cymunedol ac mae Marc Gower wedi bod yn wych o ran helpu gyda'r ymholiadau rydym ni wedi'u derbyn.”